Hir yw pob ymaros… Ar ddiwrnod yr etholiad cyffredinol, mae gan y bois i’r pod gyfweliad gydag un o’r ymgeiswyr mwyaf dadleuol yn hanes etholiadau cyngor cymundeb Bryncoch - Arthur Picton ei hun! Ond peidiwch poeni, ffans ffyddlon ‘Midffîld’, fyddwn ni ddim yn holi Picton am wleidyddiaeth. Yn hytrach, bydd John ei hun yn siarad yn agored am ei fywyd - am ei addysg yn Lloegr, ei farn am arlwy S4C, yr her o chwilio am waith o achos Picton, a’i sgyrsiau olaf efo Mei Jones.
Gwaith dylunio: Celt Iwan
Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb
Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain
Troslais: Sian Naiomi
Gwefan: podmidffild.cymru
X: @podmidffild
Facebook: @podmidffild
Instagram: @podmidffild
Ebost | Email: [email protected]