Yn un o ffilmiau ‘Superman’ mae yn ddadl rhwng Lois Lane a Superman ynglŷn ag angen y byd am waredwr fel ef. ‘Does dim angen’ meddai Lois Lane, ‘gall dynion a merched ymdopi’n iawn eu hunain.’ Ond ateb Superman yw ei fod yn gwybod am yr angen oherwydd ei fod yn clywed cri pobl o’i gwmpas ymhobman am gael eu gwared.
Bu dadl felly pan ddaeth gwaredwr go iawn i’r byd hefyd. Roedd llais Herod a’i ddilynwyr yn dweud o hyd “Tyda ni ‘mo dy angen di”. Llais y balch a’r cenfigennus, llais y cynllwynwr a’r llofrudd. Llais yr hunan hyderus hunanol di-drugaredd. Dyma’r un oedd am gael gwared â’r Iesu a aned i fod yn waredwr y byd. Lladdodd blant bach Bethlehem i geisio sicrhau hynny. Ond mae hanes y Doethion yn wahanol iawn, ei geisio i’w addoli wnaethant hwy, a dymuniad i’w gael yn waredwr oedd cri eu calon.
Clywed cri a gweld argyfwng dyn wnaeth Duw pan ddaeth yn un ohonom trwy’r geni gwyrthiol ym Methlehem. Ymdeimlo ag angen dynolryw am waredwr ysgogodd yr Arglwydd Iesu ar hyd ei fywyd hyd angau ar groes. Gwaredwr atgyfodedig yw Iesu sy’n dal i’n hannog heddiw i ymgrymu iddo ac ymddiried ynddo.
Cawn yn Herod a’r Doethion y ddau ddewis oesol – rhaid dewis un o ddwy ffordd o fyw, ffordd gwae a distryw yw un, ffordd bywyd yn ei gyflawnder a bywyd diddiwedd yw’r llall. Mae ein byd ni heddiw wedi ei rannu rhwng lleisiau sydd am gladdu’r Gwaredwr a’r rhai sydd am blygu iddo a’i addoli.
Sut fyddwn ni’n dathlu dyfodiad Gwaredwr i’r byd eleni? Beth fydd ein geiriau â’n gweithredoedd yn ei ddweud amdanom wrth i ŵyl y geni nesáu? Noswyl Nadolig, bore Nadolig ac wedi hynny beth wnawn ni â’r Iesu? Pa ffordd fyddwn ni yn ei cherdded?
Dymunaf Nadolig bendithiol i chwi.
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 08.12.24