Sign up to save your podcastsEmail addressPasswordRegisterOrContinue with GoogleAlready have an account? Log in here.
Podlediad am fywydau'r bobl anhygoel sy'n dysgu, neu wedi dysgu, yr iaith Gymraeg.A podcast about the amazing people who are learning, or have learnt, the Welsh language.Cyflwynydd/pre... more
FAQs about Podlediad Hefyd - straeon am ddysgu Cymraeg:How many episodes does Podlediad Hefyd - straeon am ddysgu Cymraeg have?The podcast currently has 37 episodes available.
September 21, 2021Rodolfo Piskorski, Dinesydd Cymraeg o Frasil | Pennod 6Ein gwestai ni y tro yma ydy Rodolfo Piskorski.Symudodd e i Gymru o Frasil, ac mae e wedi bod yn y newyddion am fod y person cyntaf i gymryd y prawf dinasyddiaeth Prydeinig (British citizenship test) yn Gymraeg!Erbyn hyn, mae Rodolfo yn astudio ieithoedd a dysgu Portiwgaleg i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae e wedi creu gwefan a fideos i helpu dysgwyr eraill - mae mwy o wybodaeth am hyn, a lluniau o Rodolfo, ar y wefan.Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadael adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts...more30minPlay
August 19, 2021Geordan Burress, Ffan Cerddoriaeth Cymraeg o Cleveland, Ohio | Pennod 5 Geordan Burress yw ein gwestai ym mhennod 5. Mae Geordan yn byw yn Cleveland, Ohio, UDA, a dechreuodd hi ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod yr iaith trwy gerddoriaeth Gruff Rhys. Yn y sgwrs mae Geordan yn esbonio sut mae hi wedi dysgu Cymraeg ar lein, a siaradodd hi am ei hymweliad â Chymru.Gallwch chi weld lluniau o daith Geordan i Gymru yma.Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts...more24minPlay
August 12, 2021Rosa Hunt, Gweinidog Capel o Donteg a Malta | Pennod 4Ein gwestai ni y tro yma ydy’r Parchedig Doctor Rosa Hunt – Gwenidog Capel Salem, Tonteg ger Pontypridd.Mae Rosa yn dod o ynys Malta yn wreiddiol. Fel Cymru, mae Malta yn wlad fach gyda iaith ei hun yn ogystal â Saesneg.Siaradon ni am ei phlentyndod ym Malta, sut mae statws Malteg wedi newid ers ennill annibyniaeth, a’r heriau a phleserau o ddysgu Cymraeg a symud i Gymru.Manylion a geirfaTanysgrifiwch i bodlediad Hefyd: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts...more27minPlay
June 17, 2021Stephen Rule, y 'Doctor Cymraeg' o Sir y Fflint | Pennod 3Y tro yma dwi'n siarad gyda Stephen Rule, y dyn sy'n rhedeg y cyfrif Twitter poblogaidd, y Doctor Cymraeg, sy'n rhoi cyngor i ddysgwyr.Yn y pennod yma rydyn ni'n siarad am sut dysgodd e Gymraeg, a sut gallwch chi datblygu hyder i siarad yr iaith yn gyhoeddus.Manylion a geirfa Tanysgrifiwch: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts...more34minPlay
May 20, 2021Angharad Jones, Athrawes o Fedwas | Pennod 2Yn yr ail bennod, rwy'n siarad gydag Angharad Jones. Mae Angharad yn athrawes o Fedwas ger Caerffili. Mae hi’n gweithio mewn ysgol gynradd Saesneg, ond gan bod y Gymraeg yn fwyfwy pwysig yn y cwricwlwm, mae hi’n gwneud cwrs o’r enw ‘Cymraeg mewn blwyddyn’ er mwyn helpu’r plant.Manylion a geirfa: https://richardnosworthy.cymru/2021/05/20/podlediad-hefyd-pennod-2-angharad-jones/Tanysgrifiwch: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts...more20minPlay
April 15, 2021Rhiannon Oliver, Actores o Benarth | Pennod 1Ein gwestai cyntaf yn y gyfres hon yw Rhiannon Oliver. Mae Rhiannon yn actores sydd wedi gweithio yn y theatr a theledu ers mwy nac 17 mlynedd. Mae ei gwaith hi yn cynnwys perfformio gyda National Theatre Wales, teithio o gwmpas Prydain ac America, ac ymddangos ar Doctors a Torchwood. ...more24minPlay
February 03, 2021Walter Ariel Brooks o Batagonia | Pennod PeilotMae dysgu Cymraeg wedi newid bywyd Walter Ariel Brooks.Hanesion ei nain a chaneuon Cymraeg wnaeth sbarduno diddordeb yn y bachgen o'r Ariannin. Cwympodd e mewn cariad gyda'r iaith a symudodd e i Gaerdydd.Dyma ei stori anhygoel....more1h 5minPlay
FAQs about Podlediad Hefyd - straeon am ddysgu Cymraeg:How many episodes does Podlediad Hefyd - straeon am ddysgu Cymraeg have?The podcast currently has 37 episodes available.