Rhaglen Cymru

Rhaglen Cymru

By andybmediaTV & FilmArtsHistory
Download on the App Store

Rhaglen Cymru episodes

  • Tim Hartley, Seneddwyr a'r Bîb yn Oz

    Pennod hiiiiiiiiiir: sgwrs + tipyn o faterion cyfoes!!

    01' 40" Tim Hartley yn trafod cyfathrebu pobl Bae Caerdydd a thrafferthion y BBC.

    38' 45" Holi am ddatganoli darlledu yn Senedd Cymru.

    44' 55" GB News yn y Bae.

    50' 25" Diweddariad parthed polisi iaith GB Music Radio.

    52' 40" Y BBC yn symud cynhyrchu newyddion dros nos y DU i Oz!

    [email protected] am sylwadau/syniadau

    Substack dwyieithog: https://rhaglencymru.substack.com/p/wrth-aros-godot-y-gorfforaeth?r=ddc7m

    https://rhaglencymru.substack.com/p/remembering-aberfan?r=ddc7m

    Cerddoriaeth gloi: Cân Elyrch Sydney, tîm AFL y ddinas.  Er gwbodaeth gan gan BOB tim pêl-droed Awstralaidd eu cân eu hunan.

    https://youtu.be/bI0JAFzTDXc?si=lvbHGCXSeQXGRsvn 

    https://youtu.be/mF8E6ijvluM?si=lRLELUnVdfkX8wgC

     

    56 min
  • Heriau'r Celtiaid a GB Tiwns

    Pennod PUM iaith!!

    Datblygiadau cyfryngol yn y gwelydydd Celtaidd + cwmni GB News yn mynd yn gerddorol Brydeinig ... ond pa fath o Brydeinig?

    [email protected] am sylwadau a syniadau.

    Cerddoriaeth gloi: https://youtu.be/R8vXnjU-oXo?si=rEoGRfHuVoNB3h5h

     

     

     

    15 min
  • Aberfan a'r Cyfryngau

    Roedd trychineb Aberfan yn achlysur a newidiodd newyddiadura yng Nghymru a thu hwnt.

    Mae Andy yn adrodd sut yr aeth y radio a theledu ati i ohebu a’r ymateb a gafwyd.

    Dyma ei Substack Saesneg: https://rhaglencymru.substack.com/p/remembering-aberfan?r=ddc7m

    Ac mewn sgwrs ddadlennol mae’r Athro Martin Johnes, cyd-awdur “Aberfan – Government and Disaster”, yn trafod rhan y cyfryngau yn y digwyddiad.

    https://www.swansea.ac.uk/cy/staff/m.johnes

    https://welsh-academic-press.shopfactory.com/contents/en-uk/p58_Aberfan

    Yn Neuadd y Dref Melbourne cynhelir digwyddiad arbennig i nodi 60 mlynedd ers Aberfan, sef pefformiad cyflawn cyntaf “Cantata Memoria” gan Syr Karl Jenkins a Mererid Hopwood yn Awstralia.

    Prynwch docynnau yma: https://www.trybooking.com/au/event/1632651

    Mae un o arweinyddion y gyngerdd, Aled Roberts, yn ymhelaethu amdani.

    https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/prif-weinidog-cymru-yn-anrhydeddu-cantata-memoria

    Trawsgrifiad o gynhadledd a gynhalwyd gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd:  https://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0004/786379/ABERFAN-CONFERENCE.pdf

    Defnyddwyd agoriad ‘Amor volat undique’ gan Carl Orff, 15fed symudiad “Carmin a Burana” i agor a chloi’r bennod.

    https://youtu.be/MvlEopNnu80?si=CH00tv05NlnoGSCj

    Cynlluniau BBC Cymru ar gyfer Aberfan 2026:  https://www.bbc.co.uk/mediacentre/mediapacks/cymru-wales-aberfan-60th-anniversary

    49 min
  • Rhys Evans BBC

    Un o uwch swyddogion BBC Cymru yw gwestai’r podlediad - Rhys Evans, Pennaeth Materion Corfforaethol a Pholisi Cyhoeddus.

    Mae fe ac Andy yn trafod y torriadau i Radio Cymru + dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.

    Mae Substack y pod eisoes wedi synfyfyrio am y sefyllfa: https://rhaglencymru.substack.com/p/wrth-aros-godot-y-gorfforaeth?r=ddc7m

    [email protected] am sylwadau a syniadau.

    Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân y gyfres 'That's Life', un o raglenni'r diweddar Esther Rantzen. 

    32 min
  • Cloddio am straeon

    Beth yw gweledigaeth DG y BBC Matt Brittin?

    Does dim troi yn ôl gan Blaid Cymru ar bwnc datganoli darlledu.

    A sgwrs am allu’r camera i hel straeon.

    Dyna bynciau trafod pennod #130 o’r pod!!!!

    Sianel You Tube Carwyn Rhys Jones: https://www.youtube.com/@carwynrhysjones287

    Peidiwch âg anghofio’r Substack – @rhaglencymru

    https://rhaglencymru.substack.com/p/ble-mae-prydain-matt-brittin?r=ddc7m

    Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân un o’r cyfresi teledu mwyaf dadleuol yn y 1960au – ‘Swizzlewick’.

    https://youtu.be/u6TmZk9RvR8?si=cE1i2Au4NWFajxsb

    https://televisionheaven.co.uk/reviews/swizzlewick

    32 min
  • CYIG, DCMS ayyb

    Cadeirydd Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg Owain Meirion yw'r gwestai.

    Mae'n sôn am deiseb CYIG ynglyn â thoriadau'r BBC a'r ymgyrch sy'n codi yn eu herbyn a thros ddatganoli darlledu. 

    https://cymdeithas.cymru/newyddion/lansio-deiseb-dros-ddiogelu-darlledu-cymru-2026-09-29

    Yna, gohebu gan Andy yn sgîl cyhoeddi adroddiad Pwyllgor yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) am Siarter y BBC. 

    Yr adroddiad: https://publications.parliament.uk/pa/cm5902/cmselect/cmcumeds/140/report.html

    Aelodaeth y Pwyllgor: https://committees.parliament.uk/committee/378/digital-culture-media-and-sport-committee/membership

    Stori Newyddion S4C: https://newyddion.s4c.cymru/article/ffir-drwydded-wedi-dyddio-angen-newid-sicrhau-dyfodol-bbc-asau

    Substack: https://substack.com/@rhaglencymru

    Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Do Not Adjust Your Set', cyfres o'r 60au a osododd rhai o'r sylfeini i Monty Python!

    https://youtu.be/tm03Ub5rJm8?si=YCpdzDQadZrM10JR

     

     

    34 min
  • Y Cyfryngau Ar Brawf

    Yn 2015 darlledwyd cyfres ar BBC Radio Cymru o dan y teitl 'Cyflwr y cyfryngau'.

    https://www.cardiff.ac.uk/cy/news/view/127258-welsh-language-media-in-spotlight

    https://www.bbc.com/cymrufyw/33381868

    Yn 2026 dyma gyflwynydd y gyfres honno, y bargyfreithiwr Gwion Lewis, yn diweddaru'r sefyllfa ar y pod.

    [email protected] am sylwadau a syniadau.

    Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Juke Box Jury', https://youtu.be/n344j6IUCVc?si=XqzShL4GUrV-xYex

    Substack Andy: https://substack.com/@rhaglencymru

     

     

     

    45 min
  • Llais lleol - GTFM

    Gorsaf radio gymunedol Pontypridd a chyffinau sy'n denu sylw'r pod y tro hwn.

    Mae GTFM wedi hen ennill ei phlwyf yn y ddwyiaith gydag Ioan Dyer yn un o'i lleisiau cyfarwydd.

    Mae Ioan yn sôn am arlwy GTFM yn ystod ymweliad y Brifŵyl â Phontypridd, esblygiad yr orsaf a'i phwsigrwydd i'r gymuned.

    [email protected] am negesau a sylwadau.

    Mae Substack newydd Andy a'r podlediad yn trafod pob math o bethe cyfryngol yn y ddwy iaith.

    Cerddoriaeth cloi: 'Hedgehopper' - arwyddgân "Lunch Box" - rhaglen amser cinio Noele Gordon (Crossroads) ar deledu ATV.

     

    38 min
  • Dros Ginio Drosodd

    Pennod sydyn yn sgîl y newyddion am ddiwedd rhaglen Radio Cymru 'Dros Ginio' a 'Dros Frecwast Dydd Sadwrn' fel rhan o dorriadau'r BBC.

    https://newyddion.s4c.cymru/article/rhaglen-drafod-ginio-bbc-radio-cymru-ddod-ben

    Dyma'r ddolen i bodlediad Cymreag JOMEC gyda Garmon Rhys o'r BBC: https://podcasts.apple.com/gb/podcast/pod-jomec-cymraeg-82-garmon-rhys/id1541080062?i=1000791193948

    Dyma'r pennodau o eiddo Rhaglen Cymru bu sôn amdanynt yn ystod y bennod:

    Efa Gruffudd Jones https://rhaglencymru.podbean.com/e/comisiynydd-y-gymraeg/

    Karl Davies https://rhaglencymru.podbean.com/e/papur-gwyrdd-gwallus/

    @rhaglencymru yw Substack Andy Bell

    https://rhaglencymru.substack.com/p/drawing-their-plans?r=ddc7m

    [email protected] am sylwadau, sibrydion a syniadau.

    13 min
  • Teledu Annibynnol Yn 71

    Mae teledu annibynnol yn 71 oed ar Fedi'r 22ain 2026.

    Yn y bennod hon mae'r Athro Jamie Medhurst yn sôn am yr ymgyrch i dorri monopoli'r BBC wedi'r ail ryfel byd a ffurfio teledu annibynnol.

    Hefyd, rhan bwysig Cymro Cymraeg o Gwmgwrs wrth cyflwyno'r syniad o gyfundrefn ranbarthol i'r DU + rhaglenni agroriadol rhyfedd ambell i orsaf ITV.

    Ac mae Andy'n rhannu ei atgofion o Blodyn Tatws, TISWAS ac Amy Turtle.

    Dyma lyfr Jamie am ITV yng Nghymru: https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/history-of-independent-television-in-wales

    Mwy am noson gyntaf ITV: https://transdiffusion.org/2015/09/22/tonights-itv-in-1955

    Y bennod hon yn addasiad o DDWY bennod a ryddhawyd y llynedd i ddathlu ITV yn 70!

     

    39 min

About Rhaglen Cymru

From the publisher's feed

Andy Bell a’i westeion yn dathlu a dadansoddi darlledu a chraffu ar y cyfryngau'n gyffredinol