Sign up to save your podcasts
Or

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a'r awdur Sioned Erin Hughes.
Daw Erin o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda'i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom. Hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020, ac mae hefyd wedi golygu Iaith Heb Ffiniau a chyd-olygu Beyond/Tu Hwnt.
Roedd ei chyfrol O'r Rhuddin ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi Fel y Moroedd y llynedd.
Yn y bennod mae Erin yn trafod ei diffyg diddordeb mewn llyfrau yn blentyn, effaith a dylanwad sgwennu personol a hunangofiannau ar ei bywyd a'r angen i ddarllen gyda phensil yn ei llaw.
Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Recordio sain: Aled Wyn Hughes
Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.
Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon
Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.
By Cyngor Llyfrau CymruYn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a'r awdur Sioned Erin Hughes.