
Sign up to save your podcasts
Or


Dere i fwynhau stori am yr Eidal a Chymru a sut mae ffrindiau yn ein helpu i ddysgu. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Francesca Sciarrillo.
Mae Ela a Dad yn prynu bwyd i swper mewn archfarchnad prysur. Yn sydyn, mae Ela’n dod o hyd i rhywbeth yn y siop. Ond, yr un pryd, mae hi’n colli rhywbeth sy’n bwysig iddi hi hefyd. Ydi’r un sy’n cael yn cael cadw? Sion Tomos Owen sy'n adrodd stori gan Meleri Wyn James.
Dyma stori hudolus sy’n dangos pwysigrwydd dathlu ein gwahaniaethau. Er nad yw’r adar eraill yn mwynhau gwrando ar gân Dryw Bach, gyda help ei ffrind, Cnocell, maent yn dysgu bod llais pawb yn sbesial. Sion Tomos Owen sy'n adrodd stori gan Megan Angharad Hunter.
Ydych chi’n barod am stori Tic Toc llawn lledrith a hwyl? Dyma hanes Dewin a Doti a’r het hud, wrth iddyn nhw greu’r Sioe Basg orau yn y byd.
Owain Sion sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.
Mae cyffro mawr yn y Cylch Meithrin wrth i bawb baratoi i fynd ar daith gyffrous yng nghwmni Dewin a Doti. Tra bydd y plant yn teithio ar y bws, ar y Balalŵn fydd Dewin a Doti yn gwibio i gyrraedd lleoliad eu gwyliau. Sion Tomos Owen sy'n adrodd stori gan Branwen Gwyn.
Dyma stori Tic Toc am anifail bach arferol sy’n byw mewn gwlad sy’n llawn anifeiliaid rhyfeddol o od. Croeso i wlad anghygoel lle gewch gwrdd â Mwncici, Gwas y Teigr a Mochingen. Sion Tomos Owen sy'n adrodd stori ei hun.
Mae Pws y gath fach wrth ei bodd yn mynd ar antur. Tybed i ble mae hi wedi mynd heddiw. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Chris Harris.
Mae Maia Non ar fin cael parti, ond cyn iddo dechrau, mae’n rhaid iddi ddal y jeli! Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Luned Whelan.
Dere i wrando ar stori llawn antur a hud gyda Dewin a Doti’r ci, sy'n helpu Martha pan ma' rhaid iddi hi fynd i'r ysbyty. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Meleri Wyn James.
Dere i wrando ar stori llawn antur a hud gyda Dewin a Doti’r ci. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Meleri Wyn James.
From the publisher's feed
Cyfres o straeon i blant bychain. A series of stories for young children.

7,579 Listeners

1,039 Listeners

5,489 Listeners

1,789 Listeners

1,832 Listeners

1,042 Listeners

17 Listeners

1,945 Listeners

3,205 Listeners

706 Listeners

1,006 Listeners