Trysorfa Trelech - Ysgol Hafodwenog

Trysorfa Trelech - Ysgol Hafodwenog

By StiwdioboxFictionDrama
Download on the App Store

Trysorfa Trelech - Ysgol Hafodwenog episodes

  • Trelech a'r Beili - Golygfa 11 Penygroes
    Ar dir comin ger Penygroes, ymhell o helynt y pentref, mae un teulu bach wedi cael diwrnod prysur iawn yn hela a’n creu pob math o grefftau i’w gwerthu. Maen nhw’n eistedd o gylch y tân yn gwylio’r watsh arian (y lleuad i chi a fi) yn dringo fry i’r awyr uwchben.
    2 min
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 9 Fferm Hafodwenog
    Ar Fferm Hafodwenog, mae David Evans wedi bod yn brysur iawn yn aredig y tir a’i ferch, Elisabeth, wedi godro, golchi’r dillad ac wedi pobi bara ffres i de. Mae Sophia, ei wraig, newydd ddod nôl o’r siop ac ar fin dechrau gwneud te i’w gŵr blinedig.
    3 min
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 8 Ffynnondafolog
    Mae’n 1 o’r gloch y prynhawn ac mae Mr Stevens a’i griw newydd adael fferm Ffynnondafolog. Mae ei wyneb fel taran am bod ffarmwr arall wedi gwrthod talu ei ddyled. Mae Mr Stevens yn dechrau difaru iddo ddod i blwyf Trelech a’r Betws y diwrnod hwnnw.
    3 min
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 7 Y Sgwâr
    Mae’n 10 o’r gloch ac ar sgwâr y pentref, y tu allan i Gapel-y-Graig a siop Rock Hall, mae criw o gymdogion yn trafod rhywbeth pwysig. Mae aderyn bach newydd ddweud wrthyn nhw bod Mr Stevens, y beili sy’n gyfrifol am gasglu dyledion y Degwm, ar ei ffordd o Gaerfyrddin i Drelech gyda’i weision – a 70 o blismyn!!
    4 min
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 6 Green Hall
    Yn nhŷ Green Hall, cartref y clocsiwr lleol, mae Anna Morgan a’r plant ar fin gadael y tŷ i gerdded y 2 filltir i Ysgol Trelech. Mae Thomas, ei gŵr, wrthi’n brysur yn creu clocsiau newydd yn y gweithdy.
    2 min
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 5 Felin-newydd
    Yn Felin-newydd, ar lan afon Cynin, mae’r rhod ddŵr yn llonydd. Dyw Caleb James, y melinydd, heb ddechrau ar waith y dydd. Mae Rachel, ei wraig, yn brysur yn paratoi brecwast i bawb cyn mynd â’r plant i’r ysgol.
    2 min
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 2 Capel y Graig
    Cododd yr haul yn gynnar gan oleuo caeau glas a chloddiau blodeuog yr ardal. Ym Mhenygroes, mae Laurel, y ferch 13 oed, wedi codi cyn cŵn Caer – ond nid cyn y milgi brych. Mae hwnnw eisoes wedi diflannu i rywle.
    4 min

About Trysorfa Trelech - Ysgol Hafodwenog

From the publisher's feed

Drama Radio Ysgol Gynradd Hafodwenog
Trelech a’r Beili gan Un o’r lle

Mae’r gwaith wedi ei sbarduno gan ddigwyddiad hanesyddol yn ymwneud â Rhyfel y Degwm, a ddigwyddodd ym mhlwyf Trelech…