Heddiw, un o Gwm Rhondda sy'n ymuno â fi- Laura Truelove. Mae Laura yn sylfaenydd cylchgrawn syrffio i fenywod o’r enw Daughters of the Sea.
Gobeithio newch chi fwynhau’r sgwrs!
-----------------------------------
Fy enw i yw Cai Morgan, croeso i fy mhodlediad, Welsh Waves.
Yn y gyfres hon, byddai’n archwilio i ddiwylliant Gymreig yn 2023 trwy gwrdd a phobl ifanc ac ysbrydoledig sydd wrthi’n siapio ein dyfodol, yng Nghymru ac ar lwyfan byd eang.
Ym mhennodau eraill, byddai’n ymchwilio mewn i straeon hanesyddol diddorol dwi’n teimlo sy’n helpu ni fel Cymry deall sut gall ein dyfodol edrych.
Ymunwch a fi yn y gyfres dwy-ieithog hon. Tanysgrifiwch a gwrandewch ar eich platfformau podlediadau fel Spotify, Apple Podcasts, neu Google Podcasts.
—----------------------------
Mae’n rhaid i fi ddechrau’r bennod newydd hon trwy ymddiheuro. Er fy mod i’n un sy’n hoffi aros yn driw if y nghair, dim ond dwy bennod mewn i’r gyfres newydd sbon yma dwi wedi methu i gadw at y trefn a fy nghynllun gwreiddiol o ryddhau un pennod bob dydd Sul….
Dwi’n gwybod bod na joc ym myd y podlediadau bod neb bydd yn rhyddhau mwy na 3 achos bo pawb yn diflasu ar gynhyrchu’r cyfrwng a dwi yn amlwg wedi troedio’n rhy agos at y dibyn yn barod!
Ond mae ‘na rheswm da i hyn…maddaewch i fi!
Pythefnos yn ôl i heddiw, tra’n chwarae pel-droed i fy nhîm lleol Talbot Green, ym munud ola’r gêm, ges i’r anffawd o dderbyn bwt i’r pen, oedd ar y pryd ddim actually yn brifo lot fawr os dwi’n onest…ond wrth i mi godi o’r llawr ges i tipyn o sioc o weld wynebau rhai o fy nghyd chwaraewyr…
Ath wynebau’r bois yn wyn ac ath fy ngwyneb i’n goch. O ni ddim yn cochu as such, odd gwaed yn pwmp mas o’n nhalcen.
Diolch i’r bachan o’r tîm arall- o ni ar y’n ffordd i A+E er mwyn rhoi trefn ar y twll rhyw 4 modfedd o hyd oedd ar agor ar fy mhen….
Yn hwyrach y noson yna, nes i rhoi llun lan ar Instagram o’r craith mawr ar draws fy mhen gyda’r 6 pwyth ges i yn y diwedd yn dal fy nhalcen at ei gilydd.
Gwestai heddiw oedd un o’r cyntaf i ymateb yn anfon neges…
City Lights by Ghostrifter
Crescent Moon by Purrple Cat
Rain, Book And Cup Of Tea by FSM Team