Pennod yn trafod twf a chyfreithiau diweddar ym myd cyfred-sefydlog (stablecoins) a'u cyferbyniad efo Arian Digidol Banc Canolog (CBDC). Rydym hefyd yn trafod twf trysorlysiau Bitcoin dros y byd ag ym Mhrydain, diweddariad ar adolygu Peach Bitcoin ar gyfer prynnu a gwerthu Bitcoin mewn ffordd preifat, materion cloddio ac egni, diogelwch defnyddwyr a chamfanteisio, ac effaith wleidyddol a chymdeithasol ar fabwysiadu Bitcoin.