
Sign up to save your podcasts
Or


Yn y bennod olaf, ystyriwn rai o'r heriau sydd wedi wynebu’r Antur dros y blynyddoedd ond hefyd y dyfalbarhad sy’n cadw'r fenter yn fyw. Cawn glywed am brosiectau tebyg ledled Cymru a’r dylanwad ehangach sydd gan Antur Aelhaearn ar fyd datblygu cymunedol.
Yn y bennod hon, byddwn yn archwilio'r prosiectau sy’n canolbwyntio ar les cymunedol – o Goedlan Carl i’r Eisteddfod leol, a’r hwb llesiant hefyd. Gyda chyfraniadau gan drigolion fel Megan, sy’n adlewyrchu ar fywyd yn y pentref dros ddegawdau, mae’r bennod hon yn taflu golau ar sut mae’r Antur wedi parhau i esblygu trwy’r 80au, 90au a thu hwnt.
Cawn glywed mwy am hanes yr antur, gan edrych yn ddyfnach i ddatblygiad y mentrau lleol sydd wedi cryfhau’r gymuned dros y degawdau – o uned wau mewn carafán i grochendy a chynhyrchu cardiau Nadolig. Cawn glywed gan drigolion y pentref heddiw ac am brosiectau fel y becws, y siop a’r gwenyn.
Yn y bennod agoriadol hon, rydym yn olrhain cychwyn Antur Aelhaearn – y fenter gymunedol gyntaf yn y Deyrnas Unedig. Wedi’i sefydlu yn 1973 gan Dr Carl Clowes a chymuned Llanaelhaearn, roedd yr Antur yn ymateb dewr i’r dirywiad lleol. Cawn glywed am frwydr i achub yr ysgol, a chwrdd ag unigolion allweddol sy’n dal i fod wrth galon y fenter hanner canrif yn ddiweddarach.