
Sign up to save your podcasts
Or


🎄Nadolig llawen a diolch am sdicio efo ni am flwyddyn arall hac-ffans!
Mae'r criw yn mynd mewn i 2026 yn meddwl am gorau a gwaethaf 2025 - ac yn esbonio beth yn union ddigwyddodd i lais Iest yn y bennod diwethaf.
Ffilmdiddim y mis ydy dryswch emosiynol Madame Webb - y ffilm sy'n gofyn 'just pa mor checked out allith un prif gymeriad fod?'
Diolch o waelod calon i Iestyn am olygu'r sioeau, achub ni o enshittification a gwneud yr Haclediad beth ydy hi trwy'r flwyddyn👏
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth dros 2025, dewch efo ni i weld beth ddaw yn 2026 🫶
Support Yr Haclediad
Links:
Mae'r oerfel wedi dod o'r diwedd, pa ffordd well i'w guro fo na lapio dy hun mewn blanced a gwrando ar tri ffrind yn trafod tech?
Bydd Iest, Sions a Bryn yn herio Grokipedia, dysgu bod Siemens Llanberis yn thing, neidio ar yr Affinity trên a trio gweithio allan sut mae Disney am stopio bobl fod yn sglyfs pan rown nhw generative AI ar Disney+😣
Hyn i gyd a llawer mwy Yn Haclediad mis Tachwedd ❄️ Diolch i Iestyn am gynhyrchu ynghanol cursed episode arall, a diolch i chi gyd am eich cefnogaeth ac am wrando 🤓
Support Yr Haclediad
Links:
Helo Hac-fans, chi'n barod am bennod brawychus mis Hydref? Achos doedd Iest druan ddim, felly ymddiheuriadau am yr ysbrydion technegol ar ei sain o yn ystod y bennod 🙇👻
Byddwn ni'n trafod llwyth o bethau mis yma - Mapio Cymru, Data Centre posib i Gaernarfon, LLM Cymraeg, a gredwch chi fyth - actual adolygiad tech newydd gan Sioned o bawb!
Y #FfilmDiDdim ydy Fright Night o 1985 - ydy o'n llanast llwyr? Ydy 🧛♀️
Diolch o galon am eich cefnogaeth bob mis gang, chi werth y byd 🎃
Support Yr Haclediad
Links:
Croeso i Haclediad 150… (go iawn tro ma) ymddiheuriadau am recordio dros 400 awr o’r absoliwt nonsens yma dros y blynyddoedd 😆
All-good-vibes ydy’r amcan mis yma, dim ond chydig iawn iawn o AI spiraling, lot o atgofion neis, a barn Iest am liquid glass newydd sgleiniog Apple.
Hefyd! FfilmDiDdim wael/wych am ddyddiau cynnar Silicon Valley, A View to a Kill… Pennod Bondigrybwyll arall amdani!
Diolch o galon i Iestyn Lloyd am gynhyrchu’r sioe, ac i bob un ohonnoch chi sy’n cyfrannu, gwrando a chefnogi’r 3 person media empire yma - mawr fydd eich gwobr 🫶
Support Yr Haclediad
Links:
🎒Tymor newydd, Haclediad newydd!
Bydd Iestyn, Sions a Bryn yn speedrunio straeon tech yr haf - Kobo 🤝 Instapaper, symud searches ni gyd draw i Kagi, deud helo i browser newydd Dia, llanast recordio, bywyd Steve Wozniak a llawer mwy!
Primo #Ffilmdiddim y mis ydy’r gampwaith “Gods of Egypt” - High camp values? Iep! Clueless protagonists? Deffo! Gerard Butler? WRTH GWRS!
Neidiwch mewn i bwll nofio’r haclediad am un splash hafaidd olaf cyn i’r haul ein gadael ni am y 6 mis nesa 😆
DIolch i’n holl cefnogwyr hyfryd, i Iestyn am gynhyrchu a golygu, ac i chi gyd am wrando 🥰
Os hoffech chi helpu ni allan, prynnwch Ko-fi i ni ☕️
Support Yr Haclediad
Links:
Mocktails, Grocktails a Donkey Dong Bananza - hyna i gyd a mwy ar bennod hafaidd arall o’r Haclediad!
Bryn sy’n mynd â ni trwy data breaches llywodraeth Prydain, Iest sy’n rhoi barn artist ar ddefnydd Netflix o generative ᴀɪ a mae Sioned actually yn yfed diod classy am unwaith!
Ffilmdiddim y mis ydy’r surprisingly diddanol Prince of Persia, byddwch yn barod am Alfred Molina chwyslyd yn yr anialwch 🤩
Diolch o galon i Iestyn Lloyd am olygu a chynhyrchu’r sioe, ac i bawb sy’n gwrando a chyfrannu bob mis - chi werth y byd ☺️
Support Yr Haclediad
Links:
Croeso i big Summer Blow Out yr Haclediad!
Bydd Bryn, Iest a Sions yn mynd nôl i wreiddiau'r sioe mis yma, efo actual tech review go iawn o'r Nintendo Switch 2 🎮
Hefyd bydd 'na newyddion pam bo pawb yn flin efo Duolingo, ffrind y sioe Carl M yn cyflwyno dyfodol digidol i'r Senedd, a Ffilmdiddim games-aidd - Assassin's Creed.
Diolch am eich cefnogaeth, cofiwch ollwng newid mân yn y pot Ko-fi os chi di joio ☺️
Support Yr Haclediad
Links:
Craciwch y golf claps na allan am bennod hafaidd o'r Haclediad!
Datblygiadau dirgel AI sy’n mynd â bryd Sioned, Iestyn a Bryn mis yma - romcom y degawd gyda teaser am “rhywbeth” gan Sam Altman a Jony Ive, a guest appearance gan Nick Clegg i roi chi off eich swper.
Yn wahanol i’r arfer mae’r criw wedi gwylio ffilm actually da ar gyfer y #Ffilmdiddim - y music biopic i ladd y genre (wrth ei dorri yn ei hanner natch) Walk Hard.
Diolch o galon i chi gyd am wrando, diolch i’n cyfranwyr caredig, a diolch i Iestyn am gynhyrchu a golygu’r sioe 🥹🫶
Support Yr Haclediad
Links:
Croeso i Haclediad mis Ebrill! Mae Bryn, Sions a Iestyn nôl efo mwy o farn heb ymchwil na gwybodaeth 👉 Tro ma, ni'n cadw llygad ar y Broligarchy trwy Meta Raybans, trafod pa mor sbwci o gywir oedd Her(2012) am emotional affairs efo AIs ac wrth gwrs yn gwylio Ffilmdiddim am ddim :- ydy Sioned yn gywir bo ni wir ddim yn gwbod pa mor dda oedd pethe yn 2003, neu yd The League of Extraordinary Gentlemen wedi defnyddio comic book psychic powers arni hi?
Hyn i gyd, a lot lot mwy (Ah-gin-dada unrhyw un?🍭🍬🍫) yn eich hoff podlediad "dwi'n rhoi hwn mlaen yn y cefndir i deterrio burglars trw nos" 😘
Diolch o galon i'n holl wrandawyr a chefnogwyr - os hoffech chi roi ceiniog yn y jar, dyma'r link Ko-fi ☕
Support Yr Haclediad
Links:
'Ble mae'r Haclediad diweddaraf di bod?' da ni'n clywed chi'n holi. Wel, mae rhediad o cursed episodes wedi torri cynhyrchydd, boi sain ac enaid y podlediad - so ddefnyddion ni'r sweet sweet arian sponcon i anfon Iest off ar meditation retreat tra bo Bryn a Sioned yn ffaffian am loose leaf tea neu rw nonsens dosbarth canol arall.
Ar bennod yma'r Haclediad - ni'n trafod Teslas, De-Americaneiddio ein bywydau, Drinkfluencers a Signal-gate (gafodd y bennod ei recordio CYN cyhoeddiad manylion y Switch 2😍 so gewch chi glywed ni'n ecseitio am hwna mis nesa 😅)
Mae'r Ffilmdiddim yn gampwaith o'r Cate-Blanchet-power-lesbian cinematic universe, ond yn bell o fod yn unrhyw fath arall o gampwaith - wylio'n ni Borderlands fel bo chi ddim yn gorod 😅
Diolch o galon i chi gyd am gefnogi, tanysgrifio a gwrando - tolltwch ddiod i Iest a welwn ni chi mis nesa 🫶😊
Support Yr Haclediad
Links:
From the publisher's feed

858 Listeners