
Sign up to save your podcasts
Or


Mari Grug James yw un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C, mae hi'n gyflwynydd ar Heno a Prynhawn Da.
Wedi’i magu ym Mynachlog-ddu, dechreuodd ei gyrfa gyda rhaglenni plant cyn symud ymlaen i newyddion a chyflwyno. Ers cael diagnosis o ganser y fron yn 2023, mae hi wedi codi ymwybyddiaeth yn ddiflino drwy ei gwaith darlledu, ei rôl fel llysgennad Ymchwil Canser Cymru, a’r podlediad llwyddiannus 1 mewn 2, a enillodd nifer o wobrau.
Yn 2026, cafodd ei hanrhydeddu drwy gael ei dewis yn Llywydd Gŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd Mari Grug yn ymuno â ni i sôn am ei gyrfa, ei hymgyrchu, a’i thaith bersonol ryfeddol.
Mae hi hefyd yn dewis 4 cân yn cynnwys O Magnum Mysterium · Côrdydd.
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Joseff Gnagbo.
Cafodd Joseff Gnagbo ei eni yn Arfordir Ifori a daeth i Gymru fel ceisiwr lloches yn 2017. Mae o bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Dysgodd y Gymraeg, ac aeth ymlaen i weithio fel tiwtor Cymraeg.
Mae'n ymgyrchydd, athro iaith, ieithydd a cherddor.
Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac mae hefyd wedi ymgyrchu dros hawliau ffoaduriaid.
Cyn dod i Gymru, roedd yn newyddiadurwr ac yn athro ieithoedd yn Abidjan. Roedd eisoes yn siarad nifer o ieithoedd, gan gynnwys Ffrangeg, Saesneg, Almaeneg a Swahili.
Yn 2025, roedd Joseff yn y newyddion - fel y ffoadur cyntaf i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer y Senedd.
Mae Gav Murphy yn bersonoliaeth adnabyddus ym maes gemau fideo. Mae'n gyn-newyddiadurwr a chynhyrchydd cynnwys, ac yn un o wynebau mwyaf adnabyddus sianel RKG, lle mae'n cyflwyno fideos, podlediadau ac adolygiadau gemau a ffilmiau.
Treuliodd ei blentyndod ym Maes y Cymer ger Caerffili, lle bu'n byw tan 2003. Yn y flwyddyn honno symudodd i Aberystwyth i astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gwblhau ei radd yn 2007. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Ysgrifennu Sgriptiau.
Er bod llawer o bobl yn gweld Gav fel y person doniol, y "class clown" sy'n codi calon pawb arall, mae'n cyfaddef bod anfanteision i hynny hefyd. Yn aml, pan mai chi yw'r person sy'n gwneud i bawb chwerthin ac yn codi ysbryd y criw, gall pobl anghofio gofyn sut rydych chi eich hun yn teimlo. Mae wedi profi cyfnodau pan oedd yn teimlo'n isel ac yn cael trafferthion gyda'i iechyd meddwl, ond nid oedd pobl bob amser yn sylweddoli hynny oherwydd y ddelwedd allanol hapus a doniol.
Mae'n rhannu hanesion ei fywyd gyda Beti George a hefyd yn sôn am ei gariad Honey Ross.
Mae Sharon King yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Filfeddygol yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddi gefndir helaeth mewn ymarfer milfeddygol, ar ôl graddio mewn Gwyddoniaeth Anatomegol o Brifysgol Bryste ac ennill gradd BVetMed o Goleg Milfeddygol Brenhinol Llundain.
Cafodd ei chydnabod yn genedlaethol yn 2026 pan enillodd Gwobr Mentor Milfeddygol Cymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA Veterinary Mentor Award) am ei chyfraniad eithriadol at fentora a chefnogi myfyrwyr a chydweithwyr yn y proffesiwn milfeddygol. Cafodd ei chanmol am ei thosturi, ei chefnogaeth bersonol, a’i hymrwymiad i feithrin hyder a datblygiad proffesiynol y genhedlaeth nesaf o filfeddygon.
Mae hi hefyd yn gweithio fel milfeddyg 1 diwrnod yr wythnos yn Aberystwyth, ac yn fam i 2 o blant.
Sharon oedd y ferch gyntaf i weithio fel milfeddyg yn Nolgellau, ac mae hi'n cofio'n glir cyfnod clyw traed ar genau yn 2001, " mae dal yn fyw yn y cof" a'i effaith ar ffermwyr Cymru.
Cawn hanesion difyr ei bywyd, ac mae hi hefyd yn trafod yn agored cyfnodau o iselder mae hi wedi eu profi a sut mae ei ffydd Gristnogol wedi bod o gymorth.
Mae ganddi ambell stori ddoniol o'i chyfnod fel milfeddyg ac fe glywn am hanes Oscar y crwban sydd ganddi sy'n 90 mlwydd oed!
Fe fydd Sharon hefyd yn dewis 4 cân, Anfonaf Angel, Rhys Meirion a Pharti Cut Lloi yn canu “Dôl y Maen”.
Beti George yn holi Arwel Hughes neu Arwel MAD fel mae rhai yn ei adnabod, sy'n adnabyddus fel DJ ac fel dyn busnes llwyddiannus ar Ynys Môn.
Sefydlodd gwmni sain a goleuo MAD dros 25 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi bod yn rhan allweddol o drefnu a chefnogi digwyddiadau mawr ledled Cymru. Mae wedi gweithio gyda nifer fawr o artistiaid Cymraeg ac adnabyddus dros y blynyddoedd, ac mae hefyd yn rhedeg busnes ymgymerwyr angladdau teuluol sydd wedi bodoli ers pedair cenhedlaeth.
Fe ddechreuodd Arwel ei yrfa fel DJ yn 13eg mlwydd oed, yn cynnal disgos yn lleol, a bu'n gweithio yn ddiweddarach yr Octagon ym Mangor am 12eg mlynedd.
Fo hefyd sy’n gyfrifol am atgyfodi gŵyl Llychlynwyr Amlwch sy’n denu cannoedd o bobl o bob cwr o Brydain i gymryd rhan mewn ‘re-enactments’.
Mae wedi mabwysiadu dau o blant ac yn briod gydag Elaine. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys Elin Fflur – Ar Lan y Môr - y gân sy'n mynd ag Arwel yn syth yn ôl i'w blentyndod yn Amlwch.
Yn ôl yn 1995, bu Nic Parry yn westai ar raglen Beti a'i Phobol. Bellach, 31 mlynedd yn ddiweddarach, gwahoddodd Beti George ef yn ôl i gadw cwmni iddi yn Eisteddfod y Garreg Las, Llantwd, 2026, a hynny o flaen cynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau.
Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym myd newyddiaduraeth, does neb sy’n adnabod gwleidyddiaeth Cymru yn well na Vaughan Roderick, ac ef yw gwestai Beti a’i Phobol yr wythnos hon.
Yn y rhaglen, cawn glywed hanesion difyr ei fywyd a’i fagwraeth. Yn fachgen ifanc, roedd yn cadw ieir ac yn eu henwi ar ôl gwleidyddion y dydd.
Datblygodd y diddordeb mewn gwleidyddiaeth a hanes yn ifanc iawn. Mae’n cofio etholiad cyffredinol 1964 yn fyw, er mai tua saith oed yn unig oedd pan gafodd ei gynnal. Yn y blynyddoedd wedyn, bu’n dilyn rhai o isetholiadau mawr y 1960au, gan fynd gyda’i dad i gyfarfodydd ac ymgyrchoedd mewn ardaloedd fel Gorllewin y Rhondda a Chaerffili.
Mae Vaughan hefyd yn trafod ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, pan oedd y mudiad cenedlaetholgar a diwylliannol Cymraeg yn arbennig o gryf.
Hedydd Hughes yw gwestai Beti George.
Mae hi wedi ymroi i ddiogelu traddodiadau ac etifeddiaeth ardal Sir Benfro. Mae wedi sefydlu gwefan sydd yn casglu cyfraniadau am hanes ardal Abergwaun ac yn mynd o gwmpas ysgolion yn cyflwyno chwedlau ac arferion yr ardal. Bu hefyd yn gweithio ar brosiect oedd yn canolbwyntio ar gyfoeth ieithyddol y Sir.
Mae hi'n fam i 3 o blant ac yn byw yn Pen-caer, ac yn cadw bythynnod gwyliau. Mae hi wedi dewis caneuon gan fandiau o'r ardal ac mae aelodau o'i theulu yn chwarae ynddynt sef Lafant, Bwca a Y Dhogie Band.
Cawn hefyd glywed ei thafodiaith hyfryd wrth iddi ddarllen darn bach o Bwll Deri.
Mae Dr Simon Brooks yr ysgolhaig, awdur a hanesydd o Gymru a anwyd yn 1971, sy’n gweithio fel Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigo mewn meysydd fel hanes, theori wleidyddol, aml-ddiwylliannedd a pholisi cyhoeddus.
Mae wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd deallusol Cymru fel cyn-olygydd cylchgrawn Barn ac fel awdur llyfrau dylanwadol megis Pam na fu Cymru a Hanes Cymry.
Yn ogystal â’i waith academaidd, mae hefyd wedi gwasanaethu fel cynghorydd i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a pholisi cymunedol, gan ddylanwadu ar ddatblygu polisïau cyhoeddus yng Nghymru. Simon wnaeth hefyd sefydlu y cylchgrawn Tu Chwith.
Fe fydd yn cyhoeddi llyfr arall yn yr Hydref o'r enw Lloegr Gymraeg, ac mae'n trafod y llyfr yma gyda Beti George. "Mae'n bosib y bydd AI yn achub y Gymraeg" mae hefyd yn sôn am newid hinsawdd a'r heriau ddaw gyda hynny, ac yn trafod sut y gwnaeth y capeli Cymraeg achub yr iaith yn eu dydd.
Mae hefyd yn wynebu heriau gyda'i iechyd, ac yn trafod ei ddiagnosis o Myeloma a'r driniaeth ryfeddol mae e'n ei derbyn ym Manceinion, a'r gofal arbennig mae o wedi ac yn ei dderbyn yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd.
Mae'n hoff o gefnogi tîm pêl-droed Porthmadog, ac yn dad i 2 o blant.
Un o'r dewisiadau cerddorol yw Haf yn Llundain gan Treiglad Pherffaith, gan iddo gael ei eni yn Llundain ac mae'r gan yn sôn am fywyd yn Llundain yn yr 80au - ac mae'n falch o fod yn Gymro o'r brifddinas.
Emyr Gibson yw gwestai Beti a'i Phobol, mae'n actor a thenor, yn DJ ac yn Ymarferydd Creadigol o Ddeiniolen, Gwynedd, sy’n adnabyddus hefyd am chwarae rhan Meical yn Rownd a Rownd rhwng 2000 a 2018. Yn ogystal â’i waith actio, mae’n perfformio fel canwr ledled Cymru ac wedi bod yn aelod o'r grŵp Trio ers 2013.
Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dementia drwy ei waith mewn cartref gofal, lle mae’n defnyddio cerddoriaeth i gefnogi trigolion sy’n byw gyda’r cyflwr. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau teledu, theatr a radio, gan gynnwys cyfraniadau i MônFM. Mae hefyd yn gwneud gin.
Mae'n Dad balch i ddwy ferch, ac yn dewis 4 can gan gynnwys 'Sa Neb Fel Ti gan Eden.
From the publisher's feed
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

7,585 Listeners

1,077 Listeners

399 Listeners

1,042 Listeners

388 Listeners

5,502 Listeners

1,798 Listeners

1,823 Listeners

1,977 Listeners

2,009 Listeners

7 Listeners

676 Listeners

3,210 Listeners

719 Listeners

1,007 Listeners

245 Listeners

3,070 Listeners

2,051 Listeners

1,131 Listeners

905 Listeners

2,277 Listeners

60 Listeners