Helo, fy enw i yw Jack Thomas, a chroeso i bodlediad Pen yn y Gêm.
Yn y podlediad yma byddaf yn siarad ag amryw o bobl o bob ban y wlad am eu profiadau gyda chwaraeon. O bêl-droedwyr y Premier League i Enillwyr aur yng ngemau’r Olympaidd, bydd rhywbeth i bawb ar y podlediad yma.
Dwi am ddysgu am yr effaith mae chwaraeon yn cael ar iechyd meddwl, ac yn bwriadu dysgu o’r goreuon, fel mae cael eich pen yn y gêm!
Os ydych chi yn edrych ‘mlaen i glywed mwy, dilynwch y pod ac ymunwch â’n tîm. Diolch i chi, mi welai chi cyn hir.