Yn y bennod hon rwyf yn siarad gyda chyn-bêl-droediwr Manchester United, Rhodri Jones.
Roedd Rhodri wedi ymuno gydag academi’r clwb yn 1996, ac yn rhan o gyfres S4C ‘Giggs, Rhodri a Beckham’ yn y flwyddyn 2000.
Ar ôl sawl anaf, bu rhaid i Rhodri ymddeol o bêl-droed yn ifanc iawn, ac erbyn hyn mae’n hyfforddi meddyliau actorion, pobl busnes, a mwy!
Dwi’n gofyn i Rhodri am ei amser yng nghwmni Syr Alex Ferguson yn Man U, serennu mewn rhaglen S4C, y broses o ymddeol, a’r hyn mae’n gwneud erbyn hyn ar ôl pêl-droed.
Paratowch am raglen llawn straeon diddorol, chwerthin, emosiwn a chyngor ysbrydoledig.
Cofiwch ddilyn y Pod, a mwynhewch y bennod yma o ‘Pen yn y Gêm’.