Pen yn y Gêm

Owain Tudur Jones: Cawr Canol Cae a Chyfryngau Cymru


Listen Later

Yn y bennod yma rwyf yn trafod gydag Owain Tudur Jones, cyn chwaraewr pêl-droed proffesiynol, cyflwynydd Heno ar S4C, a pundit pêl-droed ar raglen Sgorio S4C.


Bu chwarae Owain i sawl tîm ledled Prydain, gan gynnwys cyfnodau yn chwarae yng Nghymru, Lloegr, ac yn yr Alban. Yn ogystal, bu chwarae dros ei wlad ar sawl adeg, yn ennill 7 cap dros Gymru.


Yn anffodus, brwydrodd Owain gydag anafiadau trwy gydol ei yrfa, a bu anafiadau a gwendid i'w ben-glin yn ei orfodi i ymddeol yn 30 oed yn 2015.


Ers hynny mae Owain wedi camu mewn i ddiwydiant y cyfryngau yn naturiol. Ers dechrau ei yrfa yn y cyfryngau mae Owain wedi cyflwyno podlediad The Long Man's Football World Podcast, a chyd-gyflwyno Y Coridor Ansicrwydd gyda Malcolm Allen. Mae hefyd yn gyflwynydd ar raglen S4C Heno, ac yn pundit ar raglen pêl-droed S4C, Sgorio.


Rwyf yn siarad gydag Owain am ei brofiadau yn chwarae i'w glybiau a dros ei wlad, yr effaith corfforol a meddyliol cafodd anafiadau arno, ei ymddeoliad a'r symudiad

i ddiwydiant y cyfryngau, a'r chwaraewyr gorau mae erioed wedi chwarae gyda.


Cofiwch ddilyn y podlediad os ydych yn mwynhau'r cynnwys!


Mwynhewch y bennod yma o Pen yn y Gêm!

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Pen yn y GêmBy Jack Thomas


More shows like Pen yn y Gêm

View all
The Socially Distant Sports Bar by Nata Media

The Socially Distant Sports Bar

131 Listeners