Beth os yw ffyniant dyfodol Cymru yn dibynnu ar fwy na datblygiad economaidd traddodiadol?
Mae ffyrdd, cartrefi, busnesau, ysgolion ac ysbytai i gyd yn bwysig. Ond hefyd afonydd iach, bywyd gwyllt ffyniannus, aer glân a thirweddau gwydn. Hebddyn nhw, mae'r sylfeini sy'n cefnogi ein hiechyd, ein heconomi ac ansawdd bywyd yn dechrau gwanhau ac rydym yn colli cyfoeth sy'n mynd y tu hwnt i arian.
Mae'n gwestiwn a archwilir yn asesiad mwyaf cynhwysfawr Cyfoeth Naturiol Cymru o'r amgylchedd, sy'n dwyn ynghyd dystiolaeth ar gyflwr ein hadnoddau naturiol a'r rôl y maent yn ei chwarae wrth gefnogi ein hiechyd, ein lles a'n ffyniant.
Fe'i gelwir yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol; State of Natural Resources Report yn Saesneg, neu SoNaRR yn fyr.
Yn y bennod hon, rydym yn crafu wyneb yr adroddiad mawr hwn, a’i syniadau sydd hyd yn oed yn fwy. Rydym yn archwilio sut mae natur yn cefnogi ein hiechyd a'n lles, pam mae adfer yr amgylchedd yn gwneud synnwyr economaidd, a'r hyn y byddai'n ei gymryd i adeiladu Cymru lle gall pobl a natur ffynnu gyda'i gilydd.
Rydym hefyd yn ymchwilio i Bontydd i'r Dyfodol, pennod mwyaf beiddgar yr adroddiad, sy'n dadlau bod gan Gymru eisoes lawer o'r dystiolaeth, y ddeddfwriaeth a'r uchelgais sydd ei hangen arni. Yr her nawr yw gweithredu ar yr uchelgais honno.
Oherwydd nid sgwrs am yr amgylchedd yn unig yw hon. Mae'n sgwrs am y math o Gymru yr ydym am ei gadael i genedlaethau'r dyfodol.
Felly croeswch y pontydd gyda ni. Archwiliwch y dystiolaeth, heriwch ragdybiaethau, a darganfod pam y gall buddsoddi ym myd natur fod yn un o'r buddsoddiadau pwysicaf y gall Cymru ei wneud yn ei dyfodol.