Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

By Cyfoeth Naturiol CymruScienceNature
Download on the App Store

Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru episodes

  • Strwythurau Gludog: Gyda Manon Awst a'r Rhaglen Adfer Mawndir Cenedlaethol

    Yn y bennod yma, siaradwn â Manon Awst i ganfod mwy am ei gwaith gwefreiddiol wrth iddi fynd ati i greu strwythyr creadigol sydd am fod yn adlewyrchu nodweddion storio carbon mewndir; yn benodol ar hyn o bryd drwy ymchwilio mawndir ardaloedd cadwraeth nodweddiadol ffeniau Môn a Llŷn.

     Mae hi wrthi’n cydweithio ag arbenigwyr y rhaglen Adfer Mawndir Cenedlaethol a ariannir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o weithredu i daclo’r argyfyngau hinsawdd a natur.

     Hynny wrth gwrs drwy gadw’r carbon yn y ddaear a chaniatáu i fioamrywiaeth ailgydio ar fawndir iach.

    21 min
  • Rhifyn 3 - Sut i gynnal canolfan ymwelwyr lwyddiannus - Bwlch Nant yr Arian

    Rydym ym Mynyddoedd Cambria yng Nghanolbarth Cymru yn y bennod yma yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian. Mae'r ganolfan wedi cael blwyddyn lwyddiannus yn 2021 er gwaetha heriau pandemig Covid-19.

    Eleni, fe enillodd y ganolfan y TripAdvisor Travellers’ Choice Award unwaith eto; gwobr mae’r ganolfan wedi'i hennill ers nifer o flynyddoedd yn olynol erbyn hyn.  Mae'r wobr yn cydnabod lleoliadau sy'n ennill adolygiadau cadarnhaol gan ymwelwyr yn gyson. Mae hyn yn golygu bod y safleoedd yn y 10% uchaf o leoliadau a restrir ar y wefan deithio boblogaidd.

    Hefyd eleni, dyfarnwyd Gwobr y Faner Werdd i'r ganolfan am y tro cyntaf. Mae'r wobr  – sy’n cael ei gynnal gan Cadwch Gymru'n Daclus yng Nghymru - yn arwydd bod gan barc neu fannau gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n hardd ac bod ganddo gyfleusterau ardderchog i ymwelwyr. 

    Bwlch Nant yr Arian yw'r ail safle CNC yn unig i dderbyn y Faner Werdd ar ôl i Ganolfan Ymwelwyr Garwnant ger Merthyr Tudful dderbyn y wobr yn 2016.

    Felly pa fath o ymdrech sydd angen tu ôl i’r llen i ennill y gwobrau hyn a bod yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol? Dyna beth oeddem ni eisiau darganfod.

    19 min
  • Rhifyn 1: Parth Cadwraeth Morol Sgomer

    Y mis yma, rydyn ni’n dechrau gyda rhan gyntaf pennod dwy-ran arbennig i lawr yn Sir Benfro lle siaradodd ein uwch swyddog cyfathrebu, Llinos Merriman, â'n cydweithiwr Phil Newman am ei yrfa a'r gwaith gwych maen nhw’n ei wneud ym Mharth Cadwraeth Morol Sgomer.

    21 min

About Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

From the publisher's feed

Podlediad Cyfoeth Naturiol Cymru yn ffocysu ar amgylchedd Cymru ac yn rhoi golwg tu ôl i'r llen i chi o'n gwaith.