Yffach o 'gymeriad' sydd ar y podlediad wythnos hon. Comedïwr, actor ac ysgrifennwr Iwan John, neu basically, Eddie Butler..... a lejynd! Hotel Eddie, Noc noc, Mawr, Hyd y pwrs a nifer o gymeriadau mewn nifer o raglenni ar S4C. Ond yn ogystal â sgwrsio am ei yrfa, ei waith a dylanwadau, comedi, Eddie Butler, fe ges i'r hanes am ei salwch a'i siwrnai anhygoel o dderbyn aren newydd, gan ei ffrind, Steffan Rhys Williams. Cymeriad a hanner, boi ffeind, boi doniol dros ben ac fe ges i'r fraint o weithio gydag Iwan rhai blynyddoedd yn ôl. O, ac mae ei wraig, Non, hefyd yn brilliant!