O mam fach! Actor a seren ffilm a theledu (yn ogystal â theatr) sydd ar y podlediad wythnos hon. Harry Potter, Wonder woman, Gavin & Stacey, Con Passionata, The Mentalists, Pobl y Cwm a nifer o bethau eraill......neb llai na Steffan Rhodri!!! Dwi'n lwcus iawn i fod wedi cyfarwyddo llais gyda Steffan nifer o weithiau dros y blynyddoedd ac o ni mor lwcus i gael cyfweld â'r actor o Dreforys yn ddiweddar. Sgwrs ddiddorol am ei fagwraeth, ei yrfa, actio, ffilmiau, Gavin & Stacey, 10 cwestiwn chwim a mwy. Ac unwaith eto, diolch yn fawr IAWN i'r gantores a'r gyflwynwraig Elin Fflur am y sgwrs ar y bennod ddiwethaf.