
Sign up to save your podcasts
Or


Yn y bumed bennod o "Di'r Helmed yn Ffitio?", dwi yng nghwmni Gwilym Evans, gyn-chwaraewr Yr Octagon Knights. Mi fyddai yn holi Gwilym amdan ei hanes yn chwarae yng Nghaernarfon a'i gysylltiad teuluol yn Seattle.
Yn y bennod yma mi fyddai yn trafod gydag Iwan pwy dani'n tybio cafodd y drafft gorau blwyddyn yma. Mi fydd y ni'n enwi cwpwl o chwaraewyr sydd wedi dal ein sylw gan hefyd cynnwys y timau a wnaeth methu'r marc yn y broses.
Yn y bennod yma mi fyddai yn siarad gyda Phrif Hyfforddwr Y South Wales Warriors, Jacob Law. Fyddai'n holi sut cafodd o fewn i'r byd Pêl-droed Americanaidd a sut wnaeth o gychwyn hyfforddi hefyd.
Mae'r bennod yma yn y Saesneg yn anffodus ond toddwn i fethu a pheidio cyfweld a hyfforddwr yr unig dîm Pêl-droed Americanaidd yng Nghymru!
Yn y bennod yma mi fyddai yn siarad gyda James Kellett o'r podlediad "Who's Got the Ball" i drafod gweddill o'r drafft. Mi fydd y ni yn ceisio rhagfynegi pa timau fydd yn creu drama ar y noson, a pa chwaraewyr dani'n credu sydd angen fwy o sylw.
Mae’r bennod yma wedi ei ddarparu trwy gyfrwng y Saesneg.
Yn y bennod yma mi fyddai yn dadansoddi rownd cyntaf y drafft gyda Iwan Llewelyn gan hefyd clywed sut cychwynodd o gwylio'r gamp a cefnogi'r Eagles.
Dyma'r pennod cyntaf o'r ail gyfres.
Yn y bennod yma mi fyddai yn holi Dyfed Cynan a Guto Williams, sut wnaeth y nhw cychwyn gwylio'r NFL a sut tymor mae'r Dolphins a'r Falcons wedi'i gael? Fydd y ni'n rhoid ein barn ar y gêm fawr Dydd Sul yma rhwng Y Seahawks a'r Patriots a fydd y ni hefyd yn rhestru ein Arwr a Cachwr y Mis.
Yn y bennod yma mi fyddai yn edrych nol ar rownd cyntaf Y Playoffs gan hefyd rhoi fy marn ar y gemau i'w ddod penwythnos yma. Pwy sy'n barod am Y Superbowl?
Yn y bennod yma mi fyddai yn edrych nol ar y gemau fwyaf trawiadol yn fy marn i ac hefyd yn edrych ymlaen tuag at gemau nos fory. Hefyd, mi fyddai yn trafod y trades hurt sydd wedi bod yn mynd mlaen wythnos diwethaf yma! Gan gynnwys Sauce Gardner yn mynd i'r Indianapolis Colts!
Dani'n nôl! Ar ol egwyl hir dwi nôl yn siarad am pob dim NFL. Yn y bennod yma mi fyddai yn trafod 3 gêm wnaeth denu'n sylw i wythnos yma. Mi fyddai hefyd yn trafod yr anturiaethau a giamocs cesi tra yn Llundain ar gyfer y gemau NFL.
Yn y bennod yma mi fyddai yn ateb eich cwestiynau chi wrth imi drafod be aeth o'i le gyda LRZ a'r NFL? Ac a ddylwn ni poeni am ganlyniadau gemau cyn-dymor? Hefyd, mi fyddai yn trafod Arwr a Chachwr y dydd cyn diwedd y bennod.
From the publisher's feed