Join the specialists from the Farming Connect team as they pull back the curtain on the crucial baseline studies conducted within the Our Farms Network. In this episode, we dive into the data collection process and the practical application of assessments focused on woodland management, biodiversity enhancement, and on-farm carbon footprints. The team discusses how these detailed studies identify opportunities for improving business efficiency and environmental stewardship. Discover: The purpose and findings of the woodland, biodiversity and carbon baseline studies. - Real-world examples of how these findings have shaped new on-farm trials. - Actionable advice for farmers on how to utilise this information for future planning. - The first practical steps other farmers can take to prepare for and implement similar assessments on their own farms.
This is essential listening for any farmer looking to benchmark key aspects of their system and enhance the environmental value of their farm business.
#125 - Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio: Golwg fanylach ar goetiroedd, bioamrywiaeth, a charbon Ymunwch â'r arbenigwyr o dîm Cyswllt Ffermio wrth iddynt agor y llen ar yr astudiaethau llinell sylfaen hanfodol a gynhaliwyd o fewn Rhwydwaith Ein Ffermydd. Yn y bennod hon, rydym yn edrych yn fanwl ar y broses o gasglu data a chamau ymarferol asesiadau sy'n canolbwyntio ar reoli coetiroedd, gwella bioamrywiaeth, ac ôl troed carbon ar y fferm. Mae'r tîm yn trafod sut mae'r astudiaethau manwl hyn yn nodi cyfleoedd i wella effeithlonrwydd busnes a stiwardiaeth amgylcheddol. Darganfyddwch: Diben a chanfyddiadau astudiaethau llinell sylfaen coetiroedd, bioamrywiaeth a charbon. - Enghreifftiau o sut mae'r canfyddiadau hyn wedi llunio arbrofion newydd ar y fferm. - Cyngor ymarferol i ffermwyr ar sut i ddefnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio ar gyfer y dyfodol. - Y camau ymarferol cyntaf y gall ffermwyr eraill eu cymryd i baratoi ar gyfer asesiadau tebyg ar eu ffermydd eu hunain ac i'w rhoi ar waith. Mae'n bwysig i unrhyw ffermwr sy'n edrych i feincnodi agweddau allweddol ar eu system a gwella gwerth amgylcheddol eu busnes fferm wrando ar y podlediad.