
Sign up to save your podcasts
Or


Cennydd Jones, a lecturer at Aberystwyth University and a part-time farmer will be joined by Dr Iwan Owen. Iwan is a well-known name to many former Aberystwyth University Agriculture students, where he was a grassland management lecturer for forty years before he took a well-deserved retirement in 2021. In this episode we will hear about his journey to become a lecturer at WAC (Welsh Agricultural Collage), why doing a degree or further education is useful in an industry that many consider practical. We will also have the opportunity to hear his impressions about the future of agriculture in Wales.
Bydd Cennydd Jones, darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a ffermwr rhan amser yn cael cwmni Dr Iwan Owen. Mae Iwan yn enw adnabyddus i lawer o gyn-fyfyrwyr Amaeth Prifysgol Aberystwyth, lle bu'n ddarlithydd rheolaeth glaswelltir am ddeugain mlynedd cyn iddo ymddeol yn llawn-haeddiannol yn 2021. Yn y rhifyn hwn fe gawn glywed am ei daith i fod yn ddarlithydd yn WAC (Welsh Agricultural Collage), pam fod gwneud gradd neu addysg bellach yn ddefnyddiol mewn diwydiant y mae nifer yn ei ystyried fel un ymarferol. Fe gawn hefyd gyfle i glywed ei argraffiadau am ddyfodol amaeth yng Nghymru.
Lamb, mutton and wool, those are the products we are familiar with when farming sheep in Wales. Now, we should add sheep's milk to the list, as we see 14 farmers this year milking sheep. Two of these innovative individuals join Geraint Hughes for a conversation. Alan Jones from Chwilog, near Pwllheli and Huw Jones from Llanerchymedd, Anglesey. This edition was recorded from a new processing site, Llaethdy Gwyn in Bethesda, Dyffryn Ogwen, which has been developed by Carrie Rimes specifically to process sheep's milk.
Mae Angharad Menna, cyflwynydd newydd arall ar y podlediad hwn yn cyfweld â'i gwestai cyntaf, Anna Bowen, Ysgolhaig Nuffield (a noddir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Elizabeth Creake) sydd wedi teithio'r byd i astudio dyfodol moesegol ffermio llaeth. O fewn y bennod hon, byddwn yn clywed mewn manylder am eu phrofiadau mewn meysydd megis ymarferoldeb cyswllt buchod a lloi, y defnydd gorau o semen rhyw, a dod o hyd i farchnad ar gyfer lloi eidion or fuches laeth. A allai'r diwydiant hefyd ddysgu oddi wrth rasio ceffylau a'i drwydded gymdeithasol? Os yw'r bennod hon yn eich cymell i ehangu'ch gorwelion mae'r ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2024 AR AGOR! Y dyddiad cau yw 31 Gorffennaf 2023, ewch i'w gwefan am ragor o fanylion.
'Rancher' gwartheg o Texas yw Jim Elizondo sydd â 30 mlynedd o brofiad o reoli da byw mewn amodau hinsawdd amrywiol ar draws America a thu hwnt. Mae ei angerdd yn helpu ffermwyr i adfywio eu tir tra'n cyrraedd y proffidioldeb mwyaf bosib. Mae'n darparu hyfforddiant 'Real Wealth Ranching' i gleientiaid o bob rhan o'r byd ac mae wedi helpu nifer o fusnesau fferm i gyrraedd y cynhyrchiant mwyaf posibl wrth adfywio eu tir. Yn ddiweddar bu Jim yn cyflwyno mewn digwyddiadau Cyswllt Ffermio, mae'r bennod hon a gyflwynir gan Cennydd Jones yn gyfle arall i glywed cefndir Jim a'i athroniaeth ffermio.
Jim Elizondo is a cattle rancher from Texas who has 30 years' experience of managing livestock in ranging climatic condition across America and beyond. His passion is helping farmers regenerate their land whilst reaching maximum profitability. He delivers 'Real Wealth Ranching' training to clients from across the world and has helped numerous farm businesses reach maximum productivity whilst regenerating their land. Jim recently presented at Farming Connect events, this episode presented by Cennydd Jones is another opportunity to hear Jim's background and farming philosophy.
From the publisher's feed

29 Listeners