Sign up to save your podcastsEmail addressPasswordRegisterOrContinue with GoogleAlready have an account? Log in here.
"Croeso i bodlediad Dr Hanna Hopwood sy'n rhoi blas ar sut y gall maes coaching eich cefnogi a Gwneud Bywyd yn Haws!'... more
FAQs about GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws:How many episodes does GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws have?The podcast currently has 30 episodes available.
April 18, 2025*Blas ar y modiwl 'Plesio Pobl' + 'B' Fframwaith GBYH* | 20Ym mhennod 3 o'r gyfres fonws, cawn flas ar y modiwl sy'n cyflwyno strategaethau i fynd i'r afael â 'plesio pobl'. Rydym hefyd yn cael ein cyflwyno i'r hyn sydd y tu ôl i'r 'B' ar y fframwaith. Sut mae'r cam hwn yn gwneud bywyd yn haws? Gwrandewch i ddarganfod mwy!*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*...more13minPlay
April 17, 2025*Cyflwyno Fframwaith GBYH: Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws* | 19Yn ail bennod y gyfres fonws, mae fframwaith unigryw Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws yn cael ei gyflwyno. Heddiw, y cam cyntaf - y 'G' - sydd o dan sylw. Gwrandewch i ddysgu am sut mae'r cwrs hwn yn cyflwyno ffordd wahanol o gyrraedd ein nodau a chynnal ein llwyddiant. *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*...more11minPlay
April 16, 2025*Cyfres Fonws: Balans Bywyd* | 18Croeso i'r gyfres fonws o bodlediad Gwneud Bywyd yn Haws! Cyfres o benodau byrion bob dydd am 6 diwrnod wrth edrych ymlaen at Gwrs Gwneud Bywyd yn Haws: Gwanwyn 2025. Heddiw, rydym yn ail-edrych ar y syniad o 'falans bywyd' a'r teimladau sydd y tu ôl iddo. Sut mae diffinio'r teimlad hwn yn wahanol yn gallu ein helpu? Gwrandewch i ddysgu mwy!*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*...more16minPlay
March 26, 2025Ail-fframio ein meddyliau | 17Ydych chi'n dal eich hun yn siarad yn negyddol â chi eich hunan? Neu a ydy hynny'n digwydd mor gyflym fel nad ydych hyd yn oed yn sylwi, efallai? Fe allai fod yn ddefnyddiol ystyried beth mae ail-fframio ein meddyliau yn ei olygu a sut mae hynny'n gallu Gwneud Bywyd yn Haws. Gwrandewch i ddarganfod mwy!...more15minPlay
March 12, 2025Buddsoddi Amser | 16Treulio amser? Gwario amser? Buddsoddi amser? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y disgrifiadau hyn? A sut mae ail-ystyried ein perthynas ag amser yn gallu GBYH? Gwrandewch i ddarganfod mwy!...more16minPlay
February 26, 2025Angen vs Eisiau | 15Pa mor aml dych chi'n dal eich hun yn dweud 'dwi jyst eisiau...' neu 'beth dwi rili eisiau ydy...'. Ond tybed a ydych chi wedi ystyried beth ydy'r gwahaniaeth rhwng 'eisiau' ac 'angen'? A beth yw'r negeseuon sy'n dod atoch chi wrth newid y gair o 'eisiau' i 'angen'? Gwrandewch i ddarganfod sut mae gwneud y newid hwn yn gallu ein helpu i ddarganfod y pethau a all Wneud Bywyd yn Haws....more13minPlay
February 12, 2025Un peth sy'n gallu GBYH heddiw! | 14Cyfle i ddysgu am rywbeth ymarferol heddiw sy'n gallu GBYH. Triwch hwn os ydych chi'n teimlo ychydig bach ar goll yn eich meddyliau er mwyn ail-gysylltu a gwrando ar y doethineb sydd y tu mewn. HEFYD - blas bach ar newyddion gen i fydd i'w rannu'n llawn yn y bennod nesaf!...more21minPlay
January 29, 2025Bod yn agored i dderbyn | 13Beth mae'n ei olygu i fod yn agored i dderbyn rhywbeth? Yn y bennod hon, cawn gynghorion ar sut mae'r weithred honno yn gallu ein helpu. Trafodir hefyd beth yw ystyr 'glimmers' a sut maen nhw'n mynd law yn llaw â'r syniad o 'dderbyn'. Ydy'r ddau beth hyn yn gallu Gwneud Bywyd yn Haws? Gwrandewch i ddysgu mwy!...more17minPlay
January 15, 2025Byw Bywyd Bwriadol | 12Beth mae 'byw bywyd bwriadol' yn ei olygu? A sut y gallwn ddechrau gwneud hynny?...more16minPlay
January 01, 2025Cynllunio ein un bywyd gwyllt a gwerthfawr... | 11Ym mhennod gyntaf 2025, cyfle i ystyried beth sy'n gallu ein helpu ar ddechrau cyfnod newydd? Beth yw rhai o'r pethau y gallwn eu hystyried? Sut gallwn sicrhau ein bod ni'n cymryd camau tuag at ein gobeithion mewn modd cynaladwy? Yn ystod y bennod hon, mae Hanna hefyd yn trafod y dyfyniad enwog o gerdd Mary Oliver sy'n aml yn cael ei gam-ddehongli: 'Tell me, what is it you plan to do with your one wild and precious life?'. Sut gall ystyried ystyr wreiddiol y dyfyniad ein helpu yn ystod y tymor hwn? Gwrandewch i ddarganfod mwy!...more23minPlay
FAQs about GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws:How many episodes does GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws have?The podcast currently has 30 episodes available.