Sign up to save your podcastsEmail addressPasswordRegisterOrContinue with GoogleAlready have an account? Log in here.
"Croeso i bodlediad Dr Hanna Hopwood sy'n rhoi blas ar sut y gall maes coaching eich cefnogi a Gwneud Bywyd yn Haws!'... more
FAQs about GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws:How many episodes does GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws have?The podcast currently has 30 episodes available.
December 18, 2024Teimladau’r Tymor: Crynhoi Cyfres Un | 10Cyfle i grisialu rhai o’r teimladau sy’n gallu codi ar ddiwedd blwyddyn, yng nghanol tymor hynod o lawn. Ond - os ydych chi’n gwrando ar y bennod ar adeg wahanol o’r flwyddyn - na phoener! Mae digon o bethau yma i fyfyrio drostynt wrth i Hanna ein tywys drwy rai o brif bwyntiau cyfres gyntaf podlediad GBYH. Mwynhewch!...more39minPlay
December 04, 2024Gwneud lle am emosiynau | 9Mewn cyfnod sy'n gallu teimlo'n orlawn a ble mae amryw o emosiynau yn dod i'r wyneb, dyma gyfle i ddechrau dysgu sut y gallwn greu lle ar eu cyfer nhw a beth yw'r buddion o wneud hynny. Cawn gyfle hefyd i ddysgu ychydig bach mwy am y critic mewnol. Croeso i GBYH!...more18minPlay
November 20, 2024'Gad iddo fynd' versus 'Gad iddo fod' | 8Yn y bennod hon, mae Hanna'n trafod y gwahaniaeth rhwng 'Gad iddo fynd' a 'Gad iddo fod' yng ngoleuni cân enwog y Beatles 'Let it be'. Sut mae ail-fframio dywediad rydym yn ei glywed yn gyson er mwyn Gwneud Bywyd Yn Haws?...more14minPlay
November 06, 2024Beth yw Cwrs GBYH? | 7Cwrs GBYH - Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws. 12 modiwl sydd â'r bwriad o wneud yr union beth hynny. Yn y bennod hon, ceir cyfle i gael blas ar gynnwys y cwrs - mae cofrestru'n cau 10/11/24! Gwrandewch tan y diwedd am wahoddiad i ddysgu mwy cyn ymrwymo....more27minPlay
October 23, 2024Ymrwymo i'ch dewisiadau | 6Yn y bennod hon, cyfle am ychydig bach o wybodaeth tameidiol - 'bite-size' - ar 'ddechrau cyn eich bod yn barod' (start before you're ready) ac am bwysigrwydd anrhydeddu ymrwymiadau 'dych chi'n gwneud i chi eich hun. ...more15minPlay
October 16, 2024Tymor y Bwa a'r Saeth: Pennod *bonws* | 5Sut mae'r cyfnodau o gymryd 'cam nôl', o ddweud 'na', o newid cyfeiriad neu o gymryd saib yn gallu cyfrannu at ein datblygiad? A sut gallwn ddefnyddio'r cyfnod i'n helpu ni baratoi at bennod newydd? Yn y bennod *bonws* hon, mae Hanna yn trafod y syniad o dymor y 'bwa a'r saeth' a sut mae ystyried y tymor fel hyn yn gallu helpu....more19minPlay
October 09, 2024Beth yw 'self-compassion'? | 4Beth yn union yw ystyr 'compassion'? Beth yw ystyr 'self-compassion'? Yn y bennod hon, mae Hanna'n trafod y syniad o 'hyfforddiant cryfder mewnol' (inner strength training) ac yn edrych ar bwysigrwydd y derbyn a'r gweithredu. Sut mae'r elfennau hyn yn gallu Gwneud Bywyd yn Haws? Gwrandewch i ddysgu mwy!...more32minPlay
September 25, 2024Gobaith, Gweledigaeth a Gôl | 3Yn y bennod hon mae Hanna'n rhannu rhai strategaethau y gellid eu trio wrth ddechrau dewis llwybrau newydd. Trafodir hefyd y gwahaniaeth rhwng cael gweledigaeth a chael gôl, a rôl 'gobaith' ar hyd y daith....more28minPlay
September 11, 2024Cylchoedd Cysur: Newid a Datblygu | 2Yn y bennod hon, mae Hanna'n rhannu ambell stori sy'n ein helpu i feddwl am newid, ymarfer meddylfryd hyblyg a bwydo'r lleisiau a'r systemau fydd yn ein gwasanaethu ni orau....more22minPlay
August 27, 2024Croeso i Gwneud Bywyd yn Haws! | 1Yn y bennod hon byddwn ni'n dysgu ychydig am sut daeth Hanna i faes coaching ...more32minPlay
FAQs about GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws:How many episodes does GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws have?The podcast currently has 30 episodes available.