Hansh: Blas Cyntaf

Hansh: Blas Cyntaf

Download on the App Store

Hansh: Blas Cyntaf episodes

  • Cadw i Fynd gyda'r Chwiorydd EmpowerMe

    Yn dilyn eu podlediad ar addunedau blwyddyn newydd ym mis Ionawr, mae’r Chwiorydd EmpowerME yn ôl i sôn am sut i gadw i fynd a gwneud gwir newidiadau tymor hir i’n meddylfryd, ein bywydau a’n hapusrwydd. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o gymryd amser i edrych nôl, y ffyrdd gorau i gadw ffocws ac yn rhoi tipiau ar sut i gadw i fynd pan ma’ pethau yn mynd yn anodd.

    Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref.

    Nodyn: Recordiwyd y podlediad cyn i’r canllawiau presennol o hunan-ynysu COVID-19 ddod yn weithredol.

    22 min
  • Blwyddyn Newydd Dda gyda'r Chwirorydd EMpowerME: Addunedau

    Oes pwrpas i addunedau blwyddyn newydd bellach? Sawl un sy’n cadw’i addunedau heibio i Ionawr gan wir neud newid i'w bywyd? Ydy ‘neud addunedau’n beth da neu’n beth drwg? Yn y podlediad yma mae'r mentoriaid meddylfryd Heledd a Lowri, y Chwiorydd EMpowerME, yn trafod manteision ac anfanteision addunedau blwyddyn newydd; pam eu bod yn methu, sut i ddewis yr addunedau cywir a sut mae’u cadw nhw; er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i’n meddylfryd a’n hapusrwydd. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref.

    29 min
  • Nadolig Y Morgans

    Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda’r Morgans. Yn y podlediad yma ma’ Carys a Ffion o sianel youtube The Morgans yn trafod eu hoff a cas bethau am y Nadolig a sut ma’ nhw’n dathlu fel teulu. Beth yw eu hanrhegion gorau a gwaethaf? Oes rhaid gwisgo siwmper Nadolig dros yr ŵyl? A sut wnaeth Ffion ddanfon dad i A & E un 'Dolig?

    RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref!

    21 min
  • Paned Am Y Blaned....gyda Ffion a Heini

    Ymunwch a Ffion a Heini yn y podlediad yma wrth iddyn nhw gael Paned Am Y Blaned a siarad am….wel….y blaned. Ma’ nhw’n trafod yr hinsawdd, protestio a sut allwn ni gyd ddefnyddio ein llais i greu newid; ac yn rhoi ei barn ar bwy sy’n neud beth, ydyn ni gyd yn gallu neud mwy neu a oes angen i rai tynnu ei bys mas er mwyn i ni allu rhwystro’r argyfwng hinsawdd. Ydi e’n iawn i deimlo ‘euogrwydd eco’? Dyle ni gyd fod fel Greta Thunberg? A beth sy’n apelio am Extinction Rebellion? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi!

    21 min
  • Taith i'r Craidd

    Yn y podlediad arbennig yma ma’ Tina a Nia yn sôn am eu Taith i’r Craidd: Siwrne ysbrydoledig o Fangor i Gaerdydd ar gefn beic tandem unigryw; wedi ei addasu i seiclo gyda choesau a breichiau. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o beidio rhoi pobl mewn bocsys, pam dyle pawb wthio heibio’i limits a pha effaith gafodd y daith eithafol hon ar eu cyfeillgarwch.

    29 min
  • Helo, Sut Ti'n Creu Sh*t?

    Beth sy’n cysylltu bagpipes a chreadigrwydd? A ddylen ni gyd osgoi Twitter? Yn y podlediad yma mae’r dylunydd a Steffan Dafydd yn dringo mewn i ben y ‘sgwennwr’ Dyfan Lewis i ddarganfod be sy’n ei ysbrydoli i lenwi (a gwagio) ei sach creadigol, a pam benderfynodd gamu o’r pot i’r toiled ac mewn i’r byd cyhoeddi DIY. Ond, a fydd yr holl ymbalfalu yma ym mhen Dyfan yn helpu Steffan i ddeall creadigrwydd yn well?

    RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi

    25 min
  • Panad Parr #1 - Stacy Winson

    Ymunwch ag Al Parr wrth iddo drio paneidiau gwahanol o de tra'n rhoi'r byd yn ei le. Yn y bennod gyntaf ei westai ydi Stacy Winson, dynas trawsrywiol o Lanrug, sy'n trafod Pride, dod allan, troseddau casineb ac agwedd tuag at fywyd, yn ogystal a cael panad o de fintys.

    32 min

About Hansh: Blas Cyntaf

From the publisher's feed

Cyfle i chi greu podlediad ar gyfer Hansh. Rhywbeth newydd bob mis, am bob math o bynciau, gyda lleisiau newydd a diddorol. Syniad am bodlediad? Cysylltwch gyda ni!