Croeso i gyfres podlediadau Oriel Myrddin.
Ymunwch ag Oriel Myrddin ar gyfer podlediad cerddorol lle gallwch wrando ac ymateb i gerddoriaeth sydd wedi'i hysbrydoli gan y byd naturiol.
Cymerwch amser i wneud ychydig o dynnu llun yn feddylgar gyda chyfansoddiad hardd wedi'i ysbrydoli gan y glaw 'Perlau Glaw' a'i chwarae ar y delyn gan Mared Emlyn.
Cyn y podlediad:
Bydd angen y canlynol arnoch:
•Darn o bapur
•Pensil neu ysgrifbin
•Pensiliau neu feiros lliw
Bydd angen i chi gael ychydig o le i weithio a rhywle lle byddwch yn gyfforddus, mae llecyn yn yr awyr agored yn berffaith ar gyfer cael eich ysbrydoli gan natur. Os na allwch fynd allan, ceisiwch eistedd ger ffenestr. Byddai rhywle tawel yn wych, fel arall ceisiwch wrando gan ddefnyddio clustffonau i'ch helpu i ganolbwyntio.
Bydd y gweithgaredd hwn yn cymryd tua 8 munud.
Rydyn ni'n credu y byddai'r gweithgaredd hwn yn wych ar gyfer disgyblion Sylfaen a gallai disgyblion CA2 ei fwynhau hefyd.
Os gwnaethoch chi fwynhau'r podlediad hwn efallai y byddwch yn hoffi edrych ar waith yr artistiaid hyn a greodd gelf haniaethol hefyd:
Os gwnaethoch chi fwynhau'r gerddoriaeth yn y podlediad hwn fe allech chi drio chwilio am 'Takamitsu' ar YouTube. Dilynwch y ddolen gyswllt isod: www.youtube.com/watch?v=yOsr8inpR…jWhUu3aj&index=11
Cefnogwyd y gweithgaredd hwn gan Engage Cymru.
© 19/06/2020 Ensemble Cymru
Dyluniwyd y podlediad gan Tîm Creadigol Ensemble Cymru (www.ensemble.cymru)
Cynhyrchiad a llais: Lucy Clement-Evans
Telyn: Mared Emlyn
Cerddoriaeth: Perlau Glaw – Mared Emlyn