Mis yma ar y podlediad mae cyn is-reolwr a chyfarwyddwr technegol Cymru, Osian Roberts yn ymuno â Sioned ar y Gic Rydd. Ar ôl iddo gyhoeddi yn ddiweddar ei fod yn gadael ei swydd gyda Chymru er mwyn symud i weithio gyda thîm rhyngwladol Moroco, mae Sioned yn holi Osian am ei gyfnod gyda Chymru, uchafbwyntiau, isafbwyntiau a mwy am yr her newydd sydd ar y gweill yng Ngogledd Affrica.