Reit, maint ohonoch chi'n gwylio 'Great british bake off'? Cofio 2019 a'r Gymraes o Sir Gâr, Michelle Evans-Fecci? Wel, dyna pwy sydd ar y podlediad wythnos hon! Pleser mawr oedd siarad gyda Michelle, eto dros zoom, tua diwedd 2020, a phleser odd clywed am ei gyrfa, ei angerdd am bobi, coginio a bwyd yn gyffredinol, ac wrth gwrs, am ei hamser ar y gyfres deledu. Mae ei bywyd wedi newid yn sylweddol ers iddi ymddangos ar y gyfres, ac er iddi adel ar ôl 5 wythnos, mae ei hwyneb a'i llais wedi dod yn adnabyddus a'i phroffil wedi codi! Nes i rili fwynhau siarad â Michelle a fi'n meddwl nawn ni glywed lot mwy amdani. Diolch i bawb am wrando eto a chadwch yn ddiogel.