Mae'r artist (neu darlunydd) o Benllyn, Niki Pilkington ar y podlediad wythnos hon. Wedi byw a gweithio yn Los Angeles, Paris ac yn Efrog Newydd, mae Niki, bellach, nôl yn Llundain. Fase chi'n meddwl fod signal wi-fi Llundain yn un da....ond yn anffodus, na, d'oedd e ddim, ac ymddiheuriadau am hynny. Er hynny, gwych a lot o hwyl oedd cael sgwrsio â thalent fel Niki, sy di gwerthu eu gwaith i Top Shop, Ted Baker, Sir Paul McCartney ac ar lein dros y byd. Ewch i www.nikipilkington.com. Edrychwch a phrynwch! Wnes i adael y cyfweliad yn fwy positif ac ysgafn droed, a phleser oedd siarad â hi. Unwaith eto, un o gymeriadau Cymru go iawn!