Mae Aled Hall, yn ogystal â bod yn ganwr opera adnabyddus, poblogaidd a thalentog, yn wr bonheddig, ac heb os na onibai, yn 'gymeriad'! ''Strab'' fel ma nhw'n dweud yng ngorllewin Cymru. Mae ei fyd a'i fywyd beth bynnag, wedi newid a thrawsnewid yn gyfangwbl, yn dilyn y pandemic, a'i holl waith fel canwr, wedi dod i ben. Er hynny, ma Aled yn gymeriad sy'n ymdopi ac yn delio â'r sefyllfa yn arbennig o dda, ac odd hi'n fraint cael siarad â fe yn ddiweddar, dros zoom (a falle glywch chi ambell 'i ''glitch'' technegol oherwydd signal gwan), a chael y cyfle i ofyn am ei yrfa, am opera, am ffotograffiaeth ac am sut mae natur a byd gwledig wedi ei helpu. A chi'n gwybod pha amser mae e'n codi'n y bore? 4:30!!!!!!