
Sign up to save your podcasts
Or


Be di hanes Be Di'r Hanes? Iwan Pitts a Rhys Iorwerth sy'n trafod y gyfres hanes wedi'w animeiddio - Be di'r Hanes?
Yw bywyd actor yn siampên, carped coch a minglo 'da selebs i gyd? Neu yw e mwy fel tempio, takeaways a chadw’r cyfrif banc mas o’r coch? Yn y podlediad yma mae’r actorion, a dau o wynebau cyfarwydd Hansh, Iestyn Arwel a Geraint Rhys Edwards yn camu bant o’r llwyfan a thu ôl y llen i drafod realiti’r byd actio.
Ma’ nhw’n trafod auditions gwael, bywyd mewn coleg drama a pham dyle Geraint byth drin eich traed.
RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref a chynnwys sydd ddim yn addas i blant.
Iwan Fon a Sion Gwyn yn trafod syt mae'r her 'High and Dry' yn mynd!
Blwyddyn Newydd dda a chroeso i bodlediad cyntaf Hansh yn 2020. Be chi’n edrych ‘mlaen ato dros y flwyddyn nesaf? Ymunwch â Miriam, Tom a Sam a’u gweledigaethau am bob dim 2020. Ma’ nhw’n trafod ffilmiau, teledu, Olympics, Euros, Glastonbury a phwy fyddai’n chwarae Miriam mewn ffilm. Ydych chi’n cofio pryd ddaeth yr iPad allan? Neu Pokémon GO? Ma’ nhw hefyd yn edrych nôl ar eu hoff a’u cas bethau o’r ddegawd ddiwethaf a beth i’w ddisgwyl o’r ddegawd newydd sbon. RHYBUDD: YN CYNNWYS IAITH GREF.
Heledd Watkins o HMS Morris a Rhys Gwynfor yn trafod taith ddiweddar HMS Morris i Japan, oedd digwydd bod yn cyd fynd a Chwpan Rygbi'r Byd.
Hefyd yn cael ei drafod, cathod, bwyd, ac ychydig bach am goed Nadolig.
Mae'n wythnos Calan Gaeaf! Dyma Gareth yr Orangutan a Rhys Gwynfor i drafod diwrnod mwya sbwci y flwyddyn!
Cofiwch wylio gig HyWelsh ar Facebook Hansh yn fyw Nos Iau am 7.
I gyd fynd efo'n ffilm 'Dreigiau Digartref' dyma podcast diweddara HANSH, lle mae Geraint Iwan yn sharad efo Osian Lloyd, a oedd yn chwarae dros Gymru yng Ngwpan Digartrefedd Y Byd.
Iawn Jonis? Meddwl bod chi’n gwbod bob dim am iechyd rhyw? Faint o STIs chi’n gallu enwi? Chi’n mynd am check-up yn rheolaidd? Yn y podledid hwn ma’ Ffraid sôn wrth Sam am ei anturiaethau diweddar i weld faint ma’ bobl ifanc Cymru yn gwbod am iechyd rhyw. Ma’ nhw’n trafod be i ddisgwyl yn y GUM clinig, pam bod e ddim yn embarrassing i gael check-up ac ar ôl i chi gal eich testio pam fod cael STI ddim yn ddiwedd y byd.
Ma’ Ffanibowan yn ôl a’r tro hwn maent am drafod y diafol yn dod am de, cyfnod y blodau a mis baner Siapan. Ma’ Heledd a Mari Elin yn trafod pob peth mislifaidd: Pam mae cymaint o dabŵ o amgylch siarad am y mislif? Beth chi’n neud os chi’n ‘Steddfod heb y cynnyrch cywir? Sut mae bod yn wyrdd yn ystod yr amser ‘na o’r mis? Mae’r ddwy yn rhannu profiadau personol, ffeithiau ysgytwol ac yn trafod y cynnyrch ecogyfeillgar diweddaraf i’r rhai ohonom sydd ddim am niweidio’r blaned.
From the publisher's feed