
Sign up to save your podcasts
Or


Yn (beth sy'n debygol o fod) y podlediad eisteddfod llwyr ddigidol gyntaf erioed, ma’ Aled Illtud ac Adam Gilder yn agor gatiau Eistwebfod 2019. Y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol fydd ei maes, pafiliwn a’u horielau; a ma’ nhw’n dathlu’r goreuon yn y byd digidol. Pwy fydd yn ennill y goron? Pam na dyle Garfield gael gwahoddiad i’r pafiliwn? Ac a dyle pwyllgor yr Eistwebfod neud fel Belle Delphine a gwerthu dŵr bath Dewi Llwyd i godi arian? Bydd Aled ac Adam yn rhoi croeso cynnes Cymreig i’r memes mwyaf dank a chynnwys mwyaf fiery y byd digidol.
Is (what's likely to be) the first ever digital eisteddfod podcast, Aled Illtud and Adam Gilder open the gates of Eistwebfod 2019. The internet and social media are their maes, pavilion and galleries; and they’ll be celebrating the best the digital world has to offer. Who will win the crown? Why shouldn’t Garfield get an invite to the pavilion? And should the Eistwebfod take inspiration from Belle Delphine and sell Dewi Llwyd bath water to raise money? Aled and Adam give a warm Welsh welcome to the dankest memes and the most fiery content in the digital world.
Geraint Iwan sy'n holi Mari Huws, y ffilmwneuthurwr ifanc, sydd yn trafod y ffilm ddogfen newydd Wythnos Yng Nghymru Wyllt, ffilm sy'n dilyn taith Mari i galon Ceredigion i ddarganfod mwy am y prosiect dadleuol sydd ar gychwyn yno i adael 10,000 hectar o'r tir fynd nôl yn wyllt.
Gwyliwch y ffilm yma - https://youtu.be/-0gXEKlm8FU
Croeso i Glwb 26-30 Mir a Tom! Yn y podlediad hwn bydd Tomos Dafydd a Miriam Isaac yn trafod penblwyddi trychinebus, gwyliau cerdd yr haf ac enwau babi rhyfedd. Pam fod Miriam yn cysgu gyda chyfrifiannell? Beth oedd Bryn Terfel yn meddwl o Tomos? A beth sydd yn gyffredin rhwng Love Island a Golden Balls? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi a themâu sydd yn anaddas i blant.
Welcome to Mir and Tom’s Club 26-30! In this podcast, Tomos Dafydd and Miriam Isaac discuss bad birthdays, this summer’s music festivals and weird baby names. Why did Miriam sleep with a calculator? What does Bryn Terfel think of Tomos? And what do Love Island and golden Balls have in common? WARNING: Contains swearing and themes not suitable for children.
Croeso i gwrt y Genod Gwaedlyd! Yn y podlediad hwn bydd Hanna Jarman a Mari Beard, ysgrifenwyr Merched Parchus a connoisseurs y byd gwir drosedd, yn trafod sut nath serial killers ysbrydoli nhw i ysgrifennu’r gyfres. Mae’r pynciau eraill yn y doc yn cynnwys: Pa bodlediadau gwir drosedd dyle bod chi’n gwrando arno, pam fod Ted Bundy yn gymaint o sylwhead a pam fod Florida mor weird? *RHYBUDD *- yn cynnwys iaith gref a themâu sydd yn anaddas i blant.
Merched Parchus ar S4C Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/800935541
Introducing the Genod Gwaedlyd! In this podcast Hanna Jarman and Mari Beard, writers of Merched Parchus and connoisseurs of the true crime world discuss how serial killers inspired them to write the series. Other subjects in the dock include: Which true crime podcasts should you be listening to, why was Ted Bundy such a sylwhead and why is Florida so weird? WARNING - contains strong language and themes not suitable for children.
Merched Parchus on S4C Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/800935541
Yn y podlediad hwn bydd Miriam Isaac yn sgwrsio gyda’r newyddiadurwr Elena Cresci am ei siwrnai chwyldroadol o’r ystafell newyddion i’r cylch bocsio Muay Thai. Mae Elena yn sôn am beth yrrodd hi i drawsnewid o nofis dibrofiad i ennill yn y cylch; sut mae bob cic a bob dyrniad yn helpu iddi frwydro salwch meddwl; a’u breuddwyd o gerdded allan i’r cylch i gerddoriaeth Dafydd Iwan!
RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi a themâu sydd yn anaddas i blant.
In this podcast Cai Morgan chats to journalist Elena Cresci about stepping out of the newsroom and into the Muay Thai boxing ring. Elena discusses what drove her to transform from an inexperienced novice to winning in the ring; how each punch and kick help Elena battle her mental health issues; and her dream of walking out to the ring to the tune of Dafydd Iwan!
WARNING: Contains swearing and themes unsuitable for children.
Helo! Iwan Pitts sydd yn holi Rhianna Loren am y cymeriad boncyrs Esyllt Ethni-Jones. Pwy, pam, sut?!
Yn y podlediad hwn bydd Cai Morgan yn sgwrsio gyda Guto Rhun ynglŷn â'i siwrnai o Fachynlleth i Gaerdydd; wrth iddo ddysgu am bwysigrwydd iechyd rhywiol, dod wyneb yn wyneb a HIV a sut mar’ cyffur PrEP wedi newid ei fywyd.
RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi, cyfeiriadau at ryw a themâu sydd yn anaddas i blant.
Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei drafod yn y podlediad, cliciwch yma: http://www.s4c.cymru/cy/cymorth
In this podcast Cai Morgan chats to Guto Rhun about his journey from rural Machynlleth to the bright lights of Cardiff; as he learns about the importance of sexual health, comes face to face with HIV and talks about how the drug PrEP changed his life.
WARNING: Contains swearing, sexual references and themes unsuitable for children.
For more information about the topics discussed in this podcast, click here: http://www.s4c.cymru/en/help
Mae Geraint Iwan yn holi Caryl Angharad am y de a’r gogledd, be di chwaraeon cenedlaethol Cymru, David Beckham a char James Bond. Rhybudd – yn cynnwys rhegi.
Beth yw dyfodol Sîn Cerddoriaeth Caerdydd? Dan Jones a Gwil Hughes sy'n trafod y sîn presennol, lleoliadau gigs pwysig yn cau a beth ma’ nhw'n meddwl sy'n mynd i ddigwydd nesaf. Oes gobaith i'r Sîn? Rhybudd - cynnwys iaith gref....a chadair wichlyd!
Aled Illtud ac Adam Gilder sy' wrth y llyw y tro yma yn edrych nôl ar memes gorau 2018. Pa memes fydd yn neud y 'cut', pam fydd John Ogwen yn gwneud Thanos da a beth yw'r pwynt neud podlediad ar memes yn y lle cyntaf? Rhybudd – yn cynnwys rhegi a spoilers!
From the publisher's feed