
Sign up to save your podcasts
Or


Sam Rhys a Miriam Isaac sydd yn cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos hon. Ar yr agenda, STIs, llawdriniaeth cosmetig ac...Aquabus? Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Rhybudd – yn cynnwys rhegi! Mae’r Welsh Whisperer a’r Brodyr Pitts yn trafod gigs, hwdis Bryn Fôn, Pobol y Cwm, Rhys Mwyn ac yn ateb eich cwestiynau.
Hanna a Mared Jarman sydd yn cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos hon. Dwy Chwaer, Un Het, fformat newydd i'r podlediad lle mae'r ddwy yn tynnu enwau allan o het ar hap ac yn trafod y pynciau llosg. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Hanna a Mared Jarman sydd yn cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos hon. Dwy Chwaer, Un Het, fformat newydd i'r podlediad lle mae'r ddwy yn tynnu enwau allan o het ar hap ac yn trafod y pynciau llosg. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Sam Rhys a Cai Morgan sydd yng ngofal podlediad Hansh yr wythnos hon. Bydd y ddau yn trafod rhai o'u hoff sylwadau...cas....o fideo Cai 'Barn Amhoblogaidd Friends', a bydd Sam yn sôn am ei brofiad o gael ei dderbyn i'r Barry Horns. Hefyd rhai o benawdau papurau newyddion od Cymru....Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Yn y bennod arbennig yma, mae Geraint Iwan yn holi Mari Huws, aeth ar fordaith 3,000km o Gymru i’r Arctig i ymchwilio i lefelau’r plastig yno. Gwyliwch y ffilm ar YouTube Hansh: https://www.youtube.com/watch?v=JdiEO0Cla-s
Aled Illtud ac Adam Gilder sy' wrth y llyw y tro yma. Atgofion 'fuzzy' Pride Cymru, sut i beidio edrych ar ôl pysgod a phryd i ddefnyddio rap byrfyfyr i osgoi unrhyw sefyllfa ddiflas. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Gareth yr Orangutan yn cyflwyno podlediad arbennig gydag uchafbwyntiau o noson A Oes Hansh? yng Nghaffi Maes B, cân gan HyWelsh a sgyrsiau ffôn gyda Garmon ab Ion a Hywel Pitts (Rhybudd! Yn cynnwys rhegi)
Cai Morgan a Siân Adler sy’n cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos yma. Maen nhw’n trafod Y Sioe Frenhinol, bod yn Fegan, cyfweliad Logan Paul gyda Casey Neistat a chyfres newydd 'rhyfedd-od' Siân ar Hansh. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Rhys Gwynfor a Heledd Watkins yn trafod Pwllfilod, gigs, gwyliau heb gynllun, Steddfod yn y ddinas, a be sy ar y gweill gan HMS Morris.
From the publisher's feed