
Sign up to save your podcasts
Or


Yn enedigol o Sir Y Fflint, mae Hollie bellach yn byw gyda'i gŵr Ben ym Mro Morgannwg. Un o'r ffyrdd mae Hollie yn ceisio ymlacio a lleddfu ei phryderon yw creu clust-dlysau arbennig sy'n addurno ei chymhorthion clywed.
Mae taith anabledd Hollie yn un anodd, gyda dirywiad ei chlyw wedi bod yn frwydr gyson. Er hyn mae ei gonestrwydd am y realiti o fod yn berson byddar, a phopeth a ddaw yn ei sgil, yn anhygoel. Fel dynes ifanc, sydd newydd briodi, sut mae hi yn ymdopi gyda phenderfyniadau anodd bywyd? Oes modd byw gyda holl sgil effeithiau ei hanabledd? Oes help allan yna iddi?
Fydd Hollie yn cyffwrdd eich calonnau ac yn ail ddiffinio ein gwybodaeth am fyddardod.
Yr actor a pherfformiwr Paul Davies yw gwestai Bethan Richards. Wedi ei eni gyda dim ond un o'i ddwylo, mae agwedd Paul tuag at ei wahaniaeth corfforol wedi newid droeon dros y blynyddoedd, ac yma mae'n esbonio sut y dysgodd i dderbyn ei hun a bod yn hyderus yn ei hunaniaeth.
Cafodd ei fagu yn y Rhondda gan fwynhau profiadau cadarnhaol o fewn y gymuned glos. Tra yn ddisgybl ysgol defnyddiodd hiwmor a pherfformio i ymdopi gyda'i anabledd, arweiniodd hyn at yrfa o gyflwyno a pherfformio gan gynnwys cyfnod yn gweithio fel 'cot goch' mewn gwersyll gwyliau. Yno roedd yn ymfalchïo yn ei anabledd gan hyd yn oed defnyddio ei fraich fel cymeriad 'stumpy' sy'n lys enw arno. Trafodai hefyd ei yrfa ehangach, gan gynnwys ei waith ar y llwyfan, ei brofiad o gystadlaethau fel Mr Gay Wales a Mr Gay Universe, a’i rôl fel model a llais dros gynhwysiant. Ond er y positifrwydd sydd ganddo nawr, mae'n esbonio iddo ddioddef cyfnodau tywyll iawn a bod colled a galar wedi cael effaith dwys ar ei iechyd meddwl. Mae wedi teimlo pwysau ar adegau i “ymddangos yn abl” a soniai am y blinder a ddaw yn sgil esbonio ei anabledd i eraill yn gyson. Pwysigrwydd cymuned a dychwelyd i Gymru gododd Paul o'i iselder ac mae’n pwysleisio bod chwilio am gefnogaeth a bod yn agored yn gam pwysig mewn adferiad.
Ymunwch gyda Bethan Richards ar gyfer cyfres 2 Meddwl yn Wahanol, wrth iddi sgwrsio gyda Paul Davies, Hollie Crooke a Gwennan Young.
Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder.
Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud?
Yn y bennod hon, mae’r newyddiadurwr Mared Gwyn yn trafod Nathan Gill, cyn Aelod o Senedd Ewrop. Bu’n un o ffigyrau amlycaf Brexit cyn ei gwymp dramatig fel y gwleidydd Prydeinig cyntaf i gael ei garcharu am y drosedd o gael ei lwgrwobrwyo.
Cynhyrchiad Meicro Cyf ar gyfer BBC Radio Cymru
Cyfres sy’n craffu ar rai o achosion troseddol fwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Y cyn-farnwr Nic Parry sy’n cael cwmni’r bobol oedd yn rhan o’r achosion ac sydd yn cofio’r effaith ddofn gafwyd ar gymunedau Cymru, ac yn trafod y penderfyniadau allweddol a’r digwyddiadau dramatig newidiodd fyd yr unigolion ynghlwm â’r achosion.
Cyfres sy’n craffu ar rai o achosion troseddol fwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Y cyn-farnwr Nic Parry sy’n cael cwmni’r bobol oedd yn rhan o’r achosion ac sydd yn cofio’r effaith ddofn gafwyd ar gymunedau Cymru, ac yn trafod y penderfyniadau allweddol a’r digwyddiadau dramatig newidiodd fyd yr unigolion ynghlwm â’r achosion.
Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud?
Yn y bennod hon, mae gohebydd newyddion BBC Cymru, Meleri Williams, yn ail-fyw un o achosion mwyaf brawychus Cymru o’r blynyddoedd diwethaf – y trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill 2024. Anafwyd dau athro a disgybl a gadawodd y digwyddiad effaith ddofn ar y gymuned leol gan gipio sylw'r genedl.
Cynhyrchiad Meicro Cyf. ar gyfer BBC Radio Cymru
Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder.
Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud?
Yn y bennod hon, cyn-ohebydd newyddion BBC Cymru, Marian Wyn Jones, sy’n olrhain hanes marwolaeth Julie Clarke oedd yn ferch ifanc 17 oed a ddiflannodd o Fangor ym mis Mawrth 1984.
Roedd ei diflaniad, a’r ymdrech fu i’w chanfod, yn ddechrau un achosion troseddol mwyaf Gogledd Cymru.
Cynhyrchiad Meicro Cyf. i BBC Radio Cymru.
Yn Y Podlediad Trosedd mae'r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf cymhleth a dadleuol Cymru, gan ail-fyw’r hanes, y gyfraith a’r cwestiynau sy’n parhau.
I gael gwybod pan fydd pennod newydd yn cyhoeddi chwiliwch am bodlediad Lleisiau Cymru a thanysgrifiwch.
Canser plant sy'n cael sylw ym mhennod olaf y gyfres. Yn cadw cwmni i Mari mae Dr Celyn Kenny, meddyg sy'n arbenigo mewn canser plant ac yn gweithio yn Ysbyty Arch Noa, Caerdydd, a Gwennan Eleri sy'n fam i Megan a gafodd ddiagnosis o Acute Lymphoblastic Leukaemia (ALL) yn 2024.
Yn y bennod hon, mae Mari'n cael cwmni Tudur Hallam, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, sydd yn rhannu ei brofiad o fyw gyda chanser cam 4.
From the publisher's feed
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A…