Lleisiau Cymru

Lleisiau Cymru

By BBC Radio CymruSociety & Culture
Download on the App Store

Lleisiau Cymru episodes

  • Enlli a Chadwraeth

    Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl?

    Siân Stacey ac Elinor Gwynn sy'n cadw cwmni i Dylan ac yn trafod sawl Beth Petai? sy'n gysylltiedig gydag Ynys Enlli a chadwraeth yn gyffredinol.

    35 min
  • Papur Newydd Dyddiol Cymraeg

    Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl?

    Aled Gruffydd Jones sy'n cadw cwmni i Dylan ac yn trafod y wasg Gymraeg a'r syniad o bapur newydd dyddiol yn y Gymraeg.

    31 min
  • Porthladdoedd a Phrifddinasoedd

    Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl?

    Elin Haf Gruffydd Jones a Rhys Jones sy'n trafod rhai o ddinasoedd a threfi Cymru gyda Dylan Iorwerth: Beth Petai Caerdydd ddim yn brifddinas? Beth petai Porthdinllaen yn brif borthladd i Ogledd Cymru yn lle Caergybi? Beth petai'r Llyfrgell Genedlaethol mewn tref arall?

    39 min
  • Chwaraeon

    Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl?

    Mei Emrys a Ffion Owen sy'n ymuno gyda Dylan Iorwerth i drafod sawl "Beth Petai?" o'r byd chwaraeon.

    37 min
  • Pennod 3: Mari Lovgreen

    Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Mari Lovgreen a chael croeso mawr yn ei chartref. Mae’r trugareddau celfyddydol yn ei thŷ yn llawn hanesion am ei bywyd - o delynau i doiledau, a phob dim yn y canol!

    45 min
  • Pennod 2: Nic Parry

    Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Nic Parry a chael croeso mawr yn ei gartref. Yn gyn-farnwr, sylwebydd pêl-droed ac arweinydd nosweithiau cerddoriaeth bop, mae gan Nic Parry lwyth o drugareddau celfyddydol yn ei dŷ sy’n ei atgoffa o gyfnodau amrywiol yn ei fywyd!

    46 min
  • Gwersi Dolgarrog

    Bu farw 16 o bobl yn nhrychineb Dolgarrog, yn 1925, pan dorrodd dau argae uwchben y pentref. Mae Hywel Griffiths yn ddarlithydd daearyddiaeth ac yn y rhaglen hon, mae'n olrhain yr hanes ofnadwy hwn, gan ofyn pa wersi a ddysgwyd o 1925? Yn sicr, cyflwynwyd mesurau diogelwch newydd yn 1930 yn sgil Dolgarrog, a ’does yr un drychineb debyg wedi digwydd ers hynny - ond mae ofn llifogydd yn parhau. Mae Hywel yn holi’r Athro Mererid Puw Davies sut mae’r ofnau hyn yn lliwio ein dychymyg, o’r Dilyw Beiblaidd a chwedl Cantre’r Gwaelod i’r nofelau diweddara. Mae Dr Cerys Jones yn egluro sut y gall newid hinsawdd olygu y bydd stormydd glaw a llifogydd yn fwy dwys ac yn digwydd yn amlach. Ystyriwn y tywydd eithafol diweddar yng Nghwm Rhondda a Valencia; ac ystyriwn sut y llwyddwyd i osgoi trychineb yn Blatten - ond methu yn Guadalupe ac Alau. Mae angen dysgu o wersi'r gorffennol o hyd er mwyn osgoi trychinebau fel Dolgarrog

    28 min
  • Gwen y Wrach a Fi

    Mae Gwenllian Ellis, neu Gwen, wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am Gwen Ellis arall. Yn 1594 cafodd Gwen ferch Ellis o Landyrnog ei chrogi ar grocbren sgwâr Dinbych ar gyhuddiad o fod yn wrach. Hi oedd y person cyntaf i gael ei chrogi am witshgrafft yng Nghymru.

    Yn y podlediad, Gwen y Wrach a Fi, mae Gwenllian Ellis yn mynd ar daith i ddarganfod pwy oedd Gwen y ferch, y chwaer, y ffrind, y wraig, y swynwraig a’r iachawraig, a pham rhoi’r gosb eithaf iddi.

    O ymweld â sgwâr Dinbych lle dreuliodd hi ei heiliadau olaf, i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle mae cofnodion llys Gwen yn cael eu cadw, i Eglwys Llansanffraid ger Glan Conwy lle casglodd tystion i roi tystiolaeth yn ei herbyn, mae Gwenllian yn dod i ddeall mwy am stori Gwen a beth mae ei hanes yn ei ddweud wrthi am fod yn ferch heddiw.

    Ar ei thaith mae’n cael cwmni Holly Gierke, Ruth Williams, Dr Gareth Evans Jones, Dr David Moore a Siân Melangell Dafydd.

    Cyflwynydd: Gwenllian Ellis

    Cynhyrchydd: Anna George
    Sain: Richard Durrell

    56 min
  • Kiri Pritchard-McLean

    Kiri Pritchard McLean sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i sgwrsio am bopeth sy'n ymwneud â garddio! Ar ôl iddi ddychwelyd yn ôl i dŷ fferm y teulu, fe ddechreuodd gymryd diddordeb mewn tyfu ei chynnyrch ei hun yn enwedig dros y cyfnod clo. Bellach, mae ganddi brosiect go arbennig ar y gweill sy’n golygu tyfu llysiau a ffrwythau ar raddfa uwch gyda’r gobaith o allu darparu bocsys i fwydo aelodau o’r gymuned leol.

    Louise o Lanilltud Fawr sydd wedi darganfod y pleser o dyfu ei bwyd ei hun dros y blynyddoedd diwethaf ac Alex sy’n trafod yr hyn sydd wedi ei hysbrydoli i dyfu ei blodau ei hun adref.

    35 min
  • Hywel Pitts

    Wedi haf llawn gigs, mae Hywel yn cymryd seibiant haeddianol ac yn ymuno efo Meinir Gwilym i drafod ei ardd drefol yn y bennod yma o’r Podlediad Garddio. Mae Hywel wrth ei fodd yn tyfu llysiau a pherlysiau a’i gariad o goginio yn helpu iddo gynllunio’r hyn mae o am ei dyfu yn yr ardd yn flynyddol. 

    Anne sy’n trafod yr ardd fuodd hi’n brysur yn ei greu ar gyfer ei phlant ifanc a sut mae hynny wedi esblygu iddi bellach allu ei rannu gyda’r gymuned leol.
    Gregg sy’n trafod y tro yn ei yrfa pan gychwynnodd ei fusnes garddio ei hun a beth mae hynny’n ei olygu iddo fel unigolyn newroamrywiol.

    31 min

About Lleisiau Cymru

From the publisher's feed

Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A…