
Sign up to save your podcasts
Or


Ym mhennod Gymraeg olaf Ysgol Busnes Bangor o’i chyfres fach o bodlediadau Penny for your Thoughts, bydd y cyflwynydd Darren Morely (Rheolwr Cyswllt Busnes) yn cael cwmni Dr Martin Hanks (Cyfarwyddwr y Ddinas, Cyngor Dinas Bangor), ac academyddion Ysgol Busnes Bangor, Carl Mathers (Uwch Ddarlithydd Marchnata) a Dr Edward Thomas Jones (Uwch Ddarlithydd Economeg) i ddathlu 1500 o flynyddoedd ers sefydlu dinas Bangor.
Bydd y gwesteion yn sôn am sut mae canol dinas Bangor wedi newid dros y blynyddoedd, effaith siopau’n symud i barciau manwerthu ar gyrion y ddinas o’r hyn a oedd unwaith yn ganol dinas brysur; a’r balchder o fod â'r stryd fawr hiraf yng Nghymru. Bydd Martin, Carl ac Ed yn trafod hyn oll, gan gyflwyno golwg gadarnhaol ar y dyfodol ac ystyried hyn fel cyfle i ail-greu canol y ddinas fel lle creadigol ac arloesol.
Maent yn cynnig bod hwn yn gyfle i holi'r gymuned; Beth ydym eisiau i Fangor fod yn awr? Sut allwn ni ddefnyddio ei hanes, ei diwylliant Cymreig, a’i threftadaeth i siapio Bangor yn ddinas sy’n dod â’i chymuned a’i busnesau at ei gilydd ac yn ailgysylltu â’i gilydd?
Gwrandewch i gael clywed am rai o gydweithrediadau cychwynnol cyffrous Cyngor Dinas Bangor sy'n digwydd fel rhan o’r ymdrechion i adfywio canol dinas Bangor, a rhai o'r digwyddiadau cyffrous a fydd yn digwydd dros y flwyddyn nesaf fel rhan o’r gweithgareddau i ddathlu 1500 o flynyddoedd ers sefydlu dinas Bangor.
Ym mhennod mis hwn o bodlediad ‘Penny for your Thoughts’ Ysgol Busnes Bangor, bydd y cyflwynydd, Darren Morely (Rheolwr Cyswllt Busnes), yn cael cwmni Rhys Evans (Cyfarwyddwr Ateb) a Dr Edward Thomas, sy’n Uwch Ddarlithydd Economeg, ar y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Gwrandewch i glywed sut aeth Rhys ati i sefydlu busnes Ateb yn Ynys Môn i gefnogi'r sectorau cyhoeddus a phreifat i fodloni safonau’r Gymraeg, a chydymffurfio â nhw. Mae Ateb yn cefnogi ac yn cynghori busnesau i ymgysylltu â’r Gymraeg mewn ffyrdd ystyrlon, cynaliadwy ac ymarferol. Clywch sut mae ymgysylltu â’r Gymraeg yn cwmpasu mwy na chydymffurfio; mae’n galluogi busnesau i wella teyrngarwch cwsmeriaid, eu mantais gystadleuol a’u hygrededd o fewn tirwedd y Gymru fodern.
Mae pennod y mis hwn o ‘Penny for your Thoughts’ yn troi at farchnata digidol. Ymunwch â’r cyflwynydd, Darren Morely, ynghyd â’r gwesteion Medi Parry-Williams (sylfaenydd Making Places Work) a’r Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata Busnes, Dr Steffan Thomas i ddysgu sut mae cyfryngau cymdeithasol a datblygiadau mewn technoleg yn newid sut mae busnesau’n estyn allan i ddenu a chyfathrebu â’u cynulleidfaoedd traged. Mae Medi, a arferai fod yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn y diwydiant Canolfannau Siopa, yn rhoi cipolwg ar ei busnes newydd cyffrous, MPW, sy'n ceisio 'dod â lleoedd yn fyw ac adfywio cyrchfannau adwerthu'. Mae hi'n rhannu pa mor bwysig yw marchnata digidol i'w busnes, ei chleientiaid, a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Gwrandewch ar ganllawiau a chyngor gan Medi a Steff ar sut y gall busnesau ddefnyddio pŵer marchnata digidol trwy wneud y mwyaf o'u llwyfannau digidol. Amlygir dulliau cyfoes megis strategaethau ymgysylltu dilys a phersonol, a phwysigrwydd dadansoddeg data er mwyn gwella a chyflawni ymgyrchoedd marchnata digidol mwy effeithiol ac ystyrlon.
Mae pennod Gymraeg y podlediad Penny for your Thoughts y mis hwn yn cynnwys sgwrs ysbrydoledig rhwng Shoned Owen (Tanya Whitebits), Dr Siwan Mitchelmore (Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth yn Ysgol Busnes Bangor) ac, wrth gwrs, ein cyflwynydd Darren Morely. Shoned yw sylfaenydd a pherchennog y cwmni arobryn Tanya Whitebits sydd â dros 31K o ddilynwyr ar Instagram ac sy’n un o frandiau lliw haul gorau’r Deyrnas Unedig. Ymunwch â ni i glywed sut y tyfodd Shoned, yr entrepreneur llwyddiannus o ogledd Cymru, o fod yn gwneud rhywfaint o bres ychwanegol ar yr ochr i fod â busnes llewyrchus yn y diwydiant harddwch a cholur. Gwrandewch ar gyngor Shoned a Siwan ynghylch pa mor bwysig yw meddylfryd o fod yn barod i roi cynnig arni a bod yn wydn a datblygu rhwydweithiau cymdeithasol. Dysgwch am bŵer cysylltu â dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol i gefnogi ymdrechion i dyfu eich brand, a pha mor bwysig yw mentora syniadaeth greadigol pobl ifanc i sicrhau dyfodol mwy disglair ac entrepreneuraidd.
Ymunwch â’n cyflwynydd podlediadau Darren Morely, darlithydd Ysgol Busnes Bangor Carl Mathers ac Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, i glywed pennod gyntaf ein cyfres fer Gymraeg sy’n trafod pwysigrwydd y Gymraeg mewn marchnata a brandio. Mae’r podlediad yn amlygu sut mae dilysrwydd, gwreiddio yn y gymuned Gymreig a phresenoldeb mewn digwyddiadau diwylliannol allweddol fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ganolog i gryfhau ymgysylltiad â chefnogwyr a chwsmeriaid.
Y mis hwn rydym yn canolbwyntio ein testun ar Ddiwrnod Canser y Byd a gynhelir bob 4ydd Chwefror. Mae Diwrnod Canser y Byd wedi tyfu i fod yn fudiad cadarnhaol i bawb, ym mhobman. Bob blwyddyn, mae cannoedd o weithgareddau a digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y byd ac yn ein hatgoffa'n bwerus bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae i leihau effaith byd-eang canser. Fel rhan o Ddiwrnod Canser y Byd, mae cyfres podlediadau Ceiniog am dy Feddyliau gan Ysgol Busnes Bangor yn edrych i mewn i ddeall rôl defnydd peryglus o garsinogenau adnabyddus; gan gynnwys ysmygu ac wrth gwrs y duedd bryderus o anwedd. Trwy well dealltwriaeth o ymddygiadau peryglus defnyddwyr a'r rôl y mae marchnata cymdeithasol yn ei chwarae wrth gyfathrebu risgiau o'r fath i ddefnyddwyr, mae academyddion fel Dr Sara Parry, Uwch Ddarlithydd Marchnata yma yn Ysgol Busnes Bangor, yn cyfrannu at leihau effaith byd-eang canser.
Mae Dr Sara Parry yn Uwch Ddarlithydd Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor. Mae ei gwaith ymchwil wedi’i gyhoeddi mewn llawer o gyfnodolion a gydnabyddir yn rhyngwladol fel Journal of Business Research, Journal of Consumer Behaviour a British Journal of Management. Sara yw Cadeirydd Athena a Chynrychiolydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Ysgol. Mae hi hefyd yn Bennaeth Blwyddyn 2 ar gyfer holl israddedigion Ysgol Busnes Bangor.
From the publisher's feed