Podpeth

Podpeth

By Iwan Pitts, Hywel PittsComedy
Download on the App Store

Podpeth episodes

  • Podpeth #20 - Pod’s Law

    Helo gyfeillion!


    Mae Podpeth yn nol unwaith eto i ddathlu pen-blwydd @SpursMel!  Mae'r Elin Gruffydd yn ymuno unwaith eto i gadw trefn ar yr hogiau wrth iddynt recordio hanner podlediad yn lysh gachu, a'r ail-hanner yn hungover, felly llwyth o egni, wedyn dim egni, a gormod o fwydro am Trump, ffilms M Night Shyamalan, a Sir Fon.


    Son am fwydro, mae @SpursMel efo syniad o'r enw Mwydro'r Mascots, sydd yn mynd a ni nol ar y ZipLine.


    Os ydi ZipWorld isio noddi y Podpeth, croeso i chi gysylltu ar Twitter (@Podpeth).

    1 hr 6 min
  • BONWS Podpeth - Ifor ap Glyn

    Mae ein gwestai arbennig wythnos yma yn Fardd Cenedlaethol Cymru, cyflwynydd Sêr ar HTV Cymru, prif leisydd Treiglad Pherffaith, ac mae o'n cefnogi Spurs.  Dewch i wrando ar gyfweliad BONWS lle mae Ifor ap Glyn yn egluro i'r hogia' pethau fel Brexit, Bar Mitzvahs a'r Gynghanedd.  Dilynwch Ifor ar Twitter - @iforapglyn

    Ymddiheuriadau i:

    Asiant Ifor ap Glyn

    Arfon Wyn
    Donald Trump
    Shân Cothi
    Cliff Richard
    Pobl Cwm-Y-Glo
    Pobl Llambed
    a Tommo

    1 hr 31 min
  • Podpeth #19 - PODUS

    Bore dda!

    Hostels, caws-fyrddio, bridio pugs - ia wir, mae Podpeth wythnos yma llawn dop o gynnwys pwysig a clyfar yng nghwmni'r brodyr Iwan a Hywel. Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn sydd ar y soffa yn y parlwr efo panad i ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae @SpursMel efo syniad am raglen - "Dwi'n Meiddio Chdi".

    Dwi'n meiddio i chdi wrando! Bonws Ifor ap Glyn ar y ffordd Nos Fercher.

     

    1 hr 6 min
  • Podpeth #18 - Podland

    Beth sydd i fyny?

    Mae Elin Gruffydd yn cyd-gyflwyno Podpeth, lle 'da ni'n trafod Titanic, Babooshka, # a Nigel Farage. Hefyd, mae @SpursMel efo syniad llawn twists...

    Ein gwestai nesaf (wythnos nesaf) fydd Ifor Ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru), felly twitiwch eich cwestiynau atom (@Podpeth). Dim bonws wythnos yma, ond mae peilot SyniaDad - Heddwch Ei Lwch 2016 ar gael i'w wylio ar ein sianel YouTube. Mwy o fideos i ddod yn fuan.

    1 hr 13 min
  • BONWS Podpeth - Miriam Elin Jones

    Mae Miriam Elin Jones yn flogwraig a myfyriwr PhD sydd yn astudio Ffuglen Wyddonol yn y Gymraeg.  Mae hi hefyd yn 5'4", ac yn un o sylfaenwyr Y Stamp, cylchgrawn llenyddol newydd.  Mae Miriam yn rhagweld y dyfodol, trafod cerddoriaeth a ffasiwn, ac yn dysgu'r hogia am hen fenyw fach Cydweli.

    1 hr 5 min
  • Podpeth #17 - Hand of Pod

    Shw'mae!

    Tydi Hywel ddim yn ffan o ddynwarediad Iwan o Arnold Schwarzenegger. Hefyd, mae'r hogiau yn trio dipyn o ASMR, ac mae Iwan yn trio plygio ei bodlediad newydd, sydd yn swnio'n hollol anaddawol a rybish.

    Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Miriam Elin Jones, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter a Facebook (@Podpeth), cyn bron dweud "cont"! Mwy o hanes Miriam (a'r Stamp) i ddod yn fuan mewn pennod Bonws. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd, a thro yma, mae o am ffilm Nadoligaidd Cymraeg...

    1 hr 12 min
  • Podpeth #16 - Pod To The Future

    Blwyddyn Newydd Dda!

    Mae'r flwyddyn Dwy-Fil Dwy-Ar-Bumtheg wedi cyrraedd!  Yn cyd-cyflwyno mae Elin Gruffydd (MA).  Gwrandewch wrth i ni dehongli 2016, dynwared Prince Charles, a darllen y Daily Mail.  Hefyd, mae SpursMel yn cynnig syniad anhygoel arall o'r enw "Heddwch Ei Lwch".

    1 hr 22 min
  • BONWS Podpeth - Mari Lovgreen

    Mae'r hogiau yn gwario awr yn wely Mari Lovgreen efo ei ffrind gorau Ffion, ac yn trafod enwau babis, Awst-25wyr a llyfr newydd Mari (allan Medi 2017).  Gwyliwch gyfweliad Mari a Gareth Yr Orangutan ar Facebook Y Lle dros y Nadolig.

    1 hr 4 min
  • Podpeth #15 - RoboPod

    Wythnos cyn 'dolig, ac am y chweched wythnos yn olynol, dyma Podpeth arall!

    Mae'r hogia yn trafod barfau a rhyfeloedd, ac yn ymddiheuro i Jefferson Montero.  Hefyd, mae Mari Løvgreen (a'i ffrind Ffion) yn ateb eich cwestiynau Twitter a Facebook (@Podpeth), ac mae Dad efo syniad am raglen - 'Carreg Filltir'.

    1 hr 4 min
  • BONWS Podpeth - Sarah Breese

    Mae'r digrifwr Sarah Breese yn dysgu'r hogia am gomedi, shower thoughts, be bynnag 'di "ball squeezing", a sut i ennill BAFTA. Mi fydd Sarah ar Gwerthu Allan wythnos yma; 21:30 nos Wener ar S4C.

    1 hr 1 min

About Podpeth

From the publisher's feed

Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.