Sign up to save your podcastsEmail addressPasswordRegisterOrContinue with GoogleAlready have an account? Log in here.
Andy Bell a’i westeion yn dathlu a dadansoddi darlledu a chraffu ar y cyfryngau'n gyffredinol... more
FAQs about Rhaglen Cymru:How many episodes does Rhaglen Cymru have?The podcast currently has 198 episodes available.
June 02, 2026Annwyl Matt Brittin ...Beth hoffech chi ddweud wrth Gyfarwyddwr Cyffredinol (DG) newydd y BBC?Dyma gyfle!Cyhoeddwyd y gyfrol "Dear Matt Brittin" yn ddiweddar, casgliad o ysgrifau gan 'bobl bwysig'. Er mawr syndod doedd 'na ddim sôn am Gymru a'i hiaith #scerslibilif.https://themediasociety.substack.com/p/how-to-curate-a-book-in-six-weeksMae Rhaglen Cymru am greu fersiwn Gymru o'r llyfr - danfonwch eich llythyrau at Matt ar ffurf e-bost, ffeil sain neu boastiad llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.[email protected]@rhaglencymru ar X/Twitter a Blue SkyPodlediad Rhaglen Cymru ar Facebook.Fe fydd y cyfraniadau'n cael eu curadu fel pennod bodlediad A fel llythyr at y BBC, S4C a Senedd Cymru.Er mwyn cyrraedd y nifer fwayf o gyfranwyr posibl a wnech chi rannu'r bennod hon gyda'ch ffrindiau....more4minPlay
May 29, 2026Dyfodol y sgwrs genedlaethol: Alun DaviesMae llais Alun Davies wedi bod yn rhan o stori datganoli am ddegawd a mwy.Ar ôl colli ei sedd yn y Senedd, mae e'n achub y cyfle i synfyfyrio am gyflwr cyfryngau Cymreig a Chymraeg.Mae e hefyd yn datgelu beth sy'n codi ei galon wrth wylio a gwrando.Sianel Alun Davies ar YT: https://www.youtube.com/@alundavies1061[email protected] am sylwadau, awgrymiadau a syniadauCerddoriaeth gloi: Argwyddgân 'Perry Mason' https://youtu.be/_E2yYrrzbGg?si=KixJCqPgtRsBIEkb...more34minPlay
May 29, 2026Yr Urdd Ar Yr AwyrPennod fer i gyd-fynd âg Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru Ynys Môn.Hanes yr Urdd ar radio a theledu ac ambell i beth arall.[email protected]...more12minPlay
May 22, 2026Diolch Dewi LlwydAndy Bell yn cynnig teyrnged i Dewi Llwyd ar achlysur ei ymddeoliad.#cyfraniadhttps://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cx21dk3vwzdo[email protected] ...more13minPlay
May 21, 2026Llywodraethu a'r her gyfathrebuNegesu, dweud stori, lledaenu'r gair.Sut fydd llywodraeth newydd Cymru ymdopi â'r heriau cyfathrebol?Mae Gywn Williams yn ymgynghorydd cyfathrebu ac mae ganddo hen ddigon o bethe i'w dweud![email protected]Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Rutland Weekend Television': https://youtu.be/4AO1K3JVANU?si=6FOLbBfXZdmzCw6X...more29minPlay
May 20, 2026Eurovision ElfedMae arlwy y podlediad ynglyn âg Eurovision 2026 yn dod i ben gydag Elfed Morgan Morris yn ystyried beth sydd nesaf i’r DU.Hefyd, mae e'n hefyd yn egluro wrth Andy pam yr oedd ein cyflwynydd annwyl wedi cam-ddewis Norwy fel ei hoff gân!Cerddoriaeth gloi: Fersiwn amgen o’r annwyl ‘Bangaranga’ ‘na. #caled!!! https://youtu.be/VM_qvDdEBnk?si=O_lSPn6qKUOE5wxQBôs nwydd y Bîb, Matt Brittin, yn cael ei grybwyll yn y pod hefyd.Llythrau neu ffeiliau sain am yr hyn a ddylai’r DG newydd yn gwneud i [email protected]....more23minPlay
May 18, 20262026 - Sut Eurovision oedd hi?Ar ôl gwylio'r Ewrodeledu am bump y bore yn Oz, mae Andy wedi deffro o'r diwedd i gynnig ychydig o ddadansoddiad o'r gystadleuaeth eleni ... a chodi ambell bwynt am ei dyfodol.[email protected]...more10minPlay
May 16, 2026Rhaglen Cymru @ 100Y podlediad newydd ddathlu cyhoeddi CANT o bennodau cyflawn.Dyma wibdaith trwy'r archif ...Mae'r pod yn ôl ar Facebook - chwiliwch am 'Podlediad Rhaglen Cymru'.Y bennod nesaf i'w ryddhau ddydd Llun - Gwaddol yr Ewrodeledu[email protected]...more5minPlay
May 14, 2026Papurau Bro: Newyddiaduraeth GynhwysolMirain Owen yn dathlu cyfraniad y papurau bro ac yn cynnig syniadau am eu hesblygu yn yr oes digidol.Dyma eu hysgrif amdanynt: https://inclusivejournalism.cymru/blog/papurau-bro-y-newyddiaduraeth-fwyaf-cynhwysol-yn-y-byd Mae cyfraniad Mirain i'r pod yn rhan o'r 'Sgwrs Fawr' am ddyfodol y cyfryngau.A mwy am newyddiaduraeth gynhwysol fan hyn:https://inclusivejournalism.cymru/ynghylch/?lang=cyCerddoriaeth gloi: 'Canción Cubana' - arwyddgân rhaglenni radio Edmundo Ross: https://youtu.be/qj4tay6YbVM?si=71tdEiQe_y-ZSaNh[email protected] am sylwadau a syniadau. ...more37minPlay
May 11, 2026Heriau'r Gymru newydd i gyfryngau PrydeinigByrbod arall ... mae'na lawer yn digwydd ...Andy yn datgan ei safbwynt a'i ymateb i rai o raglenni rhwydwaith y BBC yn sgîl yr etholiad yng Nghymru. Dyw e ddim yn impressed a ddweud y lleiaf![email protected] am eich ymateb chi!!! ...more12minPlay
FAQs about Rhaglen Cymru:How many episodes does Rhaglen Cymru have?The podcast currently has 198 episodes available.