
Sign up to save your podcasts
Or


Gwestai’r bennod hon yw’r awdur Dyfed Edwards. Ceir sgwrs am nofel newydd Dyfed, ‘Deheubarth’, dehongliadau gwahanol (a thebyg!) Marged a Dyfed o’r Dywysoges Nest, y pethau sy’n cyfarwyddo sgwennu Dyfed a’i brofiadau fel awdur toreithiog yn y Gymraeg a’r Saesneg hefyd.
Mae Marged yn sgwrsio gyda'r arlunydd ac awdur Lleucu Gwenllian am ei arlunwaith, y broses o greu a sgwennu nofelau graffeg, cymryd y cyfleoedd sydd ar gael a phwysigrwydd dilyn dy reddf.
Mae Marged yn sgwrsio gyda Rhian Siôn am ei phrofiadau yn cyhoeddi ei nofel cyntaf, Gyda’n Gilydd, ac yn trafod siwrne Rhian i fod yn awdur, y pethau sy’n ei hysbrydoli a’i chyngor ar gyfer awduron newydd.
Gwestai pennod cyntaf y drydedd gyfres o Sgribls yw Gwenno Gwilym, enillydd Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2025 a Gwobr Barn y Bobl 2025 gyda'i nofel cyntaf, dwyieithog - V + Fo.
Mae Marged yn sgwrsio gyda Rhiannon Lewis am ei nofel diweddaraf, The Significance of Swans, ei gyrfa fel awdur a sut mae ei dull ysgrifennu yn amrywio gyda bob llyfr.
Mae Marged yn sgwrsio gyda'r awdur Simon Chandler am ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, ei siwrne'n dysgu'r Gymraeg a heriau ysgrifennu nofel, ei angerdd a'i waith er mwyn diwylliant Cymru, a'r pethau sy'n ei ysbrydoli.
Gwestai'r bennod hon yw Meinir Pierce Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2022 efo'i nofel hanesyddol, Capten, a golygydd yng Ngwasg y Bwthyn. Ceir trafodaeth am ddyletswydd awdur tra'n ysgrifennu am gymeriadau hanesyddol, pwysigrwydd dyfalbarhau, a beth sy'n gwneud stori arbennig o safbwynt golygydd.
Gwestai pennod cynta'r ail gyfres o Sgribls yw Sioned Erin Hughes, enillydd y Fedal Ryddiaith 2022 gyda'i chyfrol Rhyngom. Mae Erin eisioes wedi cyhoeddi O'r Rhuddin, casgliad o gerddi a myfyrdodau, a wedi curadu a golygu Iaith Heb Ffiniau, cyfrol am fagu'r Gymraeg dramor.
Mae Marged yn holi Mari George, awdur Sut i Ddofi Corryn ac enillydd Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2024 am ei llwyddiant, ei siwrne i gyhoeddi, a'i phroses ysgrifennu.
From the publisher's feed