
Sign up to save your podcasts
Or


Mae Marged yn sgwrsio gyda'r awdur Rebecca Thomas am ei llyfrau, ei chyfnod fel awdur preswyl Parc Genedlaethol Bannau Brycheiniog, ymchwilio hanes cyfoethog Cymru, a heriau penodol ysgrifennu ar gyfer oedolion ifanc.
Mae Marged yn sgwrsio gyda Joanna Davies, awdur y gyfres Bwci-Bo, am ei gyrfa, y broses o ysgrifennu llyfrau stori a llun, y profiad golygyddol, a'r her o farchnata a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwestai'r bennod hon yw Meleri Wyn James, enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 efo'i nofel diweddaraf, Hallt. Mae Marged a Meleri'n trafod llwyddiant, sut i ymdopi efo methiant, sut mae Meleri'n magu syniadau a mynd ati i ysgrifennu, a'i gwaith fel golygydd creadigol. Y llyfrau a awgrymir gan Meleri yw Yr Apel/The Appeal gan Mererid Hopwood a Jenny Mathers, a Yellowface gan R.F. Kuang.
Gwestai'r bennod yma yw'r sgriptiwr a'r awdur Elidir Jones, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020 Categori Plant a Phobl Ifanc efo'i nofel ffantasi Yr Horwth. Ceir trafodaeth am greu bydoedd ffantasi, ymchwilio chwedlau gwerin er mwyn ysgrifennu straeon arswyd, sut mae ysgrifennu sgriptiau yn cymharu a 'sgwennu nofelau, a llawer mwy yn y bennod hon!
Mae Marged yn sgwrsio efo Gwenllian Ellis, enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 2023 am ei llyfr cyntaf, Sgen i'm Syniad: Snogs, Secs, Sens a thrafod y rhesymau pam mae Gwenllian yn 'sgwennu, yr ymateb i'w llyfr, gwthio ffiniau cymdeithasol drwy ysgrifennu a be' sy'n dod nesaf. Y llyfr a awgrymir gan Gwenllian yn y bennod hon yw Tomorrow, and Tomorrow, and Tomorrow gan Gabrielle Zevin.
Mae Marged yn sgwrsio gyda Rebecca Roberts, enillydd gwobr Tir-Na-Nog 2021 a Llyfr y Flwyddyn 2021 categori Plant a Phobl Ifanc, am 'sgwennu yn y Gymraeg a'r Saesneg, ei siwrne at gyhoeddiad a jyglo teulu a gyrfa.Y llyfrau a awgrymir gan Rebecca yn y bennod hon yw:The Short Knife gan Elen CaldecottRepublic gan Nerys WilliamsSugar and Slate gan Charlotte WilliamsPaid a Bod Ofn gan Non ParryGirl, Woman, Other gan Bernardine Evaristo
From the publisher's feed