
Sign up to save your podcasts
Or


Sgwrs ddifyr gyda Menna Elfyn, un o bennaf beirdd Cymru. Mae hi'n ferch y Mans aeth â'i geiriau i bob cwr o'r byd.
Gwestai arbennig Elinor Wyn Reynolds yn tro hyn yn stiwdio'r Cwmni Bach yw Edward Morus Jones. Mae'n adnabyddus fel canwr ar recordiau cynnar Dafydd Iwan, a bu’n llwyddiannus hefyd fel artist unigol yn ystod cyfnod diwedd yr 1960au a dechrau’r 1970au. Mae bellach yn rhannu ei amser rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.
Sheridan Angharad James yw gwestai arbennig Elinor Wyn Reynolds y tro hwn yn y Cwmni Bach. Mae hi yn Ganon Bugeiliol ar y plwyf a phererinion yn Nhŷ Ddewi.
Mae Dafydd Iwan yn trafod stori ei fywyd gan gynnwys ei fagwraeth ym Mrynaman, yn fab i weinidog, ei lencyndod yn Llanuwchllyn a'i fywyd gweithgar fel cerddor a gwleidydd. Cawn glywed am yr angerdd a'r ffydd sydd wedi ei symbylu i oes o ymgyrchu a gweithredu.
Mae Emlyn Davies yn wyneb cyfarwydd i ni ers ei yrfa ym myd teledu Cymraeg. Yn y podlediad hwn, mae'n trafod ei fagwraeth a'i fywyd, ei yrfa a'i ffydd.
Yn y rhifyn hwn o'r Cwmni Bach mae Delwyn Siôn y'n trafod ei yrfa fel cerddor dros nifer o ddegawdau, ei fagwraeth yn y cymoedd a'i rôl fel arweinydd yn eglwys annibynnol Bethlehem, Gwaelod y Garth.
Brodor o Glydach yw Nel Richards ond sy'n byw bellach yn Llundain. Hi yw gwestai Elinor Wyn Reynolds ar y Cwmni Bach y tro hwn.
Cyn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, Dewi Myrddin Hughes sy'n ymuno ag Elinor Wyn Reynolds y tro hwn i drafod ei fywyd a'i weinidogaeth.
Etholwyd Geraint yn Drysorydd yr Undeb yn 2023. Magwyd ef yn Efail Isaf, ac yn y Tabernacl, capel y pentref. Bu’n athro a phrifathro, ac yn gynghorydd proffesiynol i’r gweinidog addysg wedi cyfnodau yn llywio adrannau addysg mewn awdurdodau lleol. Mae’n aelod o’r tim eang o wirfoddolwyr sy’n cynnal y Tabernacl.
Cyfres o bodlediadau lle mae Elinor Wyn Reynolds yn cyfarfod â gwestai arbennig i drafod eu bywyd a'u ffydd.
From the publisher's feed