
Sign up to save your podcasts
Or


Mae Ifor ap Glyn yn adnabyddus fel cyn fardd cenedlaethol. Dyma gyfle i glywed ychydig o'i hanes mewn sgwrs gydag Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach.
Pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru, Siân Wyn Rees yw gwestai Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach y tro hwn. Yn enedigol o Lanilar, Ceredigion mae Siân bellach yn byw yng Nghaerdydd. Rhaglen hwyliog yn llawn straeon difyr o deithio'r byd i daith ysbrydol Sian hefyd.
Y tro hwn mae Elinor Wyn Reynolds yn cael cwmni Arfon Jones, cyfieithydd beibl.net a nifer o ganeuon addoli cyfoes yn stiwdio y Cwmni Bach.
Pennaeth newydd Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru yw gwestai Elinor Wyn Reynolds y tro hwn yn stiwdio Y Cwmni Bach.
Y Parchg Jeff Williams yw Llywydd newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Yn y sgwrs hamddenol hon gydag Elinor Wyn Reynolds mae Jeff yn trafod ei fagwraeth yn Myddfai a Llundain a'i yrfa fel gweinidog a phennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru. Mae hefyd yn siarad yn agored am golli ei fab Llŷr yn dilyn brwydr dewr â chancr, a'i ffydd sydd wedi ei gynnal drwy'r cwbl.
From the publisher's feed