
Sign up to save your podcasts
Or


Ydy, mae popeth yn eitha ofnadwy ar hyn o bryd - ond mae Bryn, Iest a Sioned yma i sgwrsio am 2 awr a chadw cwmni i chi ☺️🍷❤️
Mae na minimal tech a maximal #ffilmdiddim yn y bennod yma - yn anffodus y ffilm yna ydi Dolly Parton's Christmas on the Square, gwrandwch i weld os di'r ffilm actually yn torri Bryn 😅
Diolch i BAWB sy'n gwrando, dros y flwyddyn, y 10 mlynedd dwetha, ac i bawb sydd heb ddileu'r Haclediad o'u Podcatcher 🥰
Support Yr Haclediad
Links:
Gweithio o adre? Isie esgus bod ganddo chi ffrindiau yn malu cachu ar y ddesg drws nesa? Dyma’r union beth i chi- Haclediad #92!
Yn y bennod yma bydd Bryn, Iestyn a Sions yn trafod yr iPhone newydd sgleiniog sy gan Iest a sut mae gwerthu ffôns wedi cloi bellach yn anghyfreithlon; 4k restorations lliw ffilmiau o ganrif yn ôl, wal magic John King, filmiau Cymraeg ar Amazon a #FfilmDiDdim sy bron mor “WTF?!” â Cats - Winter’s Tale.
Support Yr Haclediad
Links:
Logiwch allan o fywyd go-iawn am bnawn, joiwch Lockdown 2: Electric Boogaloo a dewch i ddathlu 10 mlynedd o’r Haclediad!
Mae Bryn, Iestyn a Sioned am fynd â chi ar daith hiraethus lawr 10 mlynedd o’r RSS feed - gan groniclo’r bŵz, apps, tech a digwyddiadau sydd wedi’n newid ni ar y ffordd.
Y #ffilmdiddim o 2010 yw The Last Airbender (ond peidiwch gwylio fo, mae’n ofnadwy). Daliwch i wrando mewn i awr 3 lle mae’r achos waethaf o igian erioed yn taro un o’r tîm…
DIOLCH i bob un ohonoch chi sy’n gwrando bob mis - fyddwn ni’n falch o ddod â chi efo ni am 10 mlynedd arall
Support Yr Haclediad
Links:
Ar bennod diweddaraf eich hoff bodlediad 2awr+ bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod llwyth o gyhoeddiadau Apple newydd, Android 11, Q-Anon yn cyrraedd Caerdydd, algorithmau hiliol a llawer mwy.
Hefyd, bydd Bryn yn rhoi update PWYSIG am App Covid-19 tracker yr NHS.
Hyn oll ynghyd â'r #ffilmdiddim Angels and Demons - yup, oedd o just mor ofnadwy ac oedden ni'n disgwyl 😬
Diolch o ❤️ am wrando, welwn ni chi tro nesa!
Support Yr Haclediad
Links:
🍹Ar bennod ddiweddaraf yr Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cymryd amser allan o’u bywydau jet-set i ymlacio a chael parti haf. Ry’n ni yma gyda llond pwll padlo o storis “ffycin adorable” am y tech diwedaraf a Ffilm Di Ddim anhygoel arall gan frenin y genre: Gerard Buttwad.
Felly - joia dros 2 awr lle does dim rhaid i ti feddwl am ddim byd, yn union fel da ni wrth recordio fo 😅
Dilynwch ni ar @Haclediad a taflwch tip draw ar Ko-fi ayyb 😊
Support Yr Haclediad
Links:
Ar bennod gorlawn ddiweddara’r Award-Winning Haclediad🥈 mae Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod chips Afal, mwy o Huawe-hei, Henry Cavill yn adeiladu PC mewn vest, e-scooters a llwythi mwy.
#Ffilmdiddim y mis yma ydy ‘Jupiter Ascending’ - ffilm arall i doddi brên gan Y Wachowskis
Cofia ddefnyddio’r chapters i neidio o gwmpas y 2awr+ o pod - neu gwranda arno fo i gyd, bebyns 😆
Diolch i bawb am wrando, welwn ni chi mis nesa 💕
Support Yr Haclediad
Links:
Wedi clywed am Yr Haclediad ar ôl ein llwyddiant ysgubol yn dod yn 2il yng Ngwobrau’r British Podcast Awards? Dim clem be ydy’r sioe random yma? Gwranda ar y nugget aur yma – dyma oreuon o’n sgyrsiau o 2019! Am fwy fel hyn bob mis, sdicia ni yn dy app podlediadau neu cer i haclediad.cymru
Support Yr Haclediad
Y tro yma ar y Jellicle podlediad sy’n 2 awr o dy amser gei fi fyth nôl…
Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut mae’r Premier League a byd e-sports basically r’un peth erbyn hyn; saga parhaol app contact tracio yr NHS; Shopify fel lle gwell i siopa nac Amazon a llawer LLAWER mwy.
Ond yn bwysicach na hynny - #FfilmDiDdim y mis yw'r anghredadwy CATS! (2019) ymunwch â ni am ganu lletchwith a ffwr freaky mewn 2awr+ o bodlediad sy’n neud mwy o sens na’r oll o 2020 yn barod 😹
Support Yr Haclediad
Links:
Croeso i bennod mis Mai 2020 o’r Emmy® award nominated Haclediad - sy’n panicio braidd bydd bobl actually yn gwrando tro ‘ma.
Mae Bryn, Iestyn a Sioned yma gyda chi am y 2.5 (😬) awr nesa i’ch arwain trwy stwff techy fel skillz Cwmrâg Alexa, testio’r iPhone SE newydd, rhoi Chrome OS ar Macs, app tracio symptomau hollbwysig ond doomed NHSx a llwythi mwy.
Ond chi wrth gwrs yma i wrando ar y legendary Afterparty, lle byddwn ni’n gwylio “Blackhat” (dir. Michael Mann,2015) a cholli ein meddyliau - a wedyn trwsio nhw efo hanner awr o gariad dwys i’r Nintendo Switch .
Diolch am wrando, cadwch yn saff a welwn ni chi tro nesa!
Support Yr Haclediad
Links:
Croeso i ail bennod manic lockdown energy yr Haclediad – yn dod atoch chi’n fyw o, wel yr union un lle ac o’r blaen - ond gyda gin drytach.
Ar y bennod yma (gafodd ei recordio cyn i sgilz Cymraeg Alexa ddod allan) bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod yr iPhone SE massive newydd, apps contact tracing newydd, a llwyddiant De Korea, pam fod pawb angen printers a Nintendo Switches mor sydyn…
Ac wrth gwrs, after party epic yn gwylio’r campwaith di-amau “Valerian and the City of a Thousand Planets” 🚀
Diolch o galon ETO ac ETO i chi gyd sy’n gwrando – gobeithio gewch chi cwpl o oriau o ddianc efo mwydro tri amigo sy’n bell o bawb, ond reit fan hyn yn eich clustiau ❤️
Support Yr Haclediad
Links:
From the publisher's feed

851 Listeners