Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod cywydd hunan-ddychanol enwog Dafydd ap Gwilym. Dyma gerdd storïol ddoniol sy’n disgrifio ymdrech aflwyddiannus i gyfarfod â merch yn hwyr yn y nos, ac wrth adrodd y stori hon mae Dafydd yn dychanu’r union bersona barddol sy’n ganolog i gymaint o’i gywyddau. Ond nodwn fod themâu difrifol yma hefyd, er gwaethaf yr holl hwyl; mae’n bosibl dadlau bod y cywydd hwn yn cyferbynnu cariad cnawdol a chariad ysbrydol a’i fod hefyd yn gyfansoddiad sy’n amlygu tensiynau rhwng y Cymry a’r Saeson.
**
‘Trouble at an Inn’
We have fun in this episode while discussing Dafydd ap Gwilym’s famous self-satirical cywydd. This is a narrative poem which describes an unsuccessful attempt to meet a woman late at night, and by reciting this story Dafydd is satirizing the very bardic persona which is central to so many of his cywyddau. But we note that there are serious themes here as well, despite all of the fun; it’s possible to argue that this cywydd contrasts bodily love with spiritual love and that it is a composition which expresses tensions between the Welsh
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Deunydd perthnasol:
- Y testun wedi’i olygu gan yr Athro Dylan Foster: http://resource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned03/04-trafferth-mewn-tafarn.html
- Penodau cyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n canolbwyntio ar waith Dafydd ap Gwilym:
https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-24-meddwin-niwrbwrch-dafydd-ap-gwilym-rhan-1
https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-25-caru-yn-y-coed-dafydd-ap-gwilym-rhan-2
https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-26-dychan-hiwmor-a-grym-celf-dafydd-ap-gwilym-rhan-3