Esgusodwch fi?

Esgusodwch fi?

Download on the App Store

Esgusodwch fi? episodes

  • Euros Lyn: Ai ffantasi yw 'Heartstopper'?

    Cyfarwyddwr y gyfres hynod boblogaidd 'Heartstopper', Euros Lyn (fe) yw gwestai'r bennod hon. Caiff Iestyn a Meilir gyfle i'w holi am y lwyddiant y gyfres ac arwyddocâd y llwyddiant hwnnw, ei brofiadau ef tra'n ei arddegau a pha brosiectau eraill cyffrous sydd ganddo ar y gweill.

    50 min
  • Miriam Isaac: Ai ‘phase’ ydi o?

    Y gantores a’r gyflwynwraig Miriam Isaac (hi) sy’n cadw cwmni i Iestyn a Meilir yn y bennod hon, ddyddiau ar ôl iddi rannu ei bod yn ddeurywiol ar lwyfan Cabarela. Cawn glywed am yr holl stereoteipio mae rhywun deurywiol yn dal i ddioddef, gan ofyn y cwestiwn, “ydyn ni fel cymuned LHDTC+ yr un mor euog o leihau profiad bywyd pobl deurywiol?”

    46 min
  • Mirain Iwerydd: Be ti'n wisgo heddiw?

    Y cyflwynydd Mirain Iwerydd (hi) sy'n sgwrsio efo Iestyn a Meilir yn y bennod hon, gan drafod ei brwdfrydedd tuag at ffasiwn a dillad lliwgar. Cawn glywed hefyd am ei chyfraniad i'r raglen deledu 'Ymbarél', agweddau cefn gwlad tuag at y gymuned ac ymateb ei theulu i'w hunaniaeth hi.

    35 min
  • Daniel Huw Bowen: Gymeri di baned?

    Sylfaenydd siop lyfrau Paned o Gê, Daniel Huw Bowen (fe) yw gwestai'r bennod hon. Yn ogystal â sgwrs am gynrychiolaeth o fewn y diwydiant llenyddol Cymraeg, caiff Iestyn, Meilir a Daniel drafodaeth am berthnasau polyamorous a'r diffyg cydnabyddiaeth cyfreithiol a gwelededd o berthnasau amrywiol.

    58 min
  • Sara Huws: Faint wyt ti'n 'dead-liftio'?

    Yr archifydd Sara Huws (hi) yw gwestai'r bennod hon. Yn ogystal â'i gwaith o ddydd i ddydd, mae gan Sara nifer o ddiddordebau sy'n amrywio o nofio dŵr gwyllt, crosio a chodi pwysau. Yn y sgwrs ddifyr hon, cawn glywed farn Sara am effaith cyfreithiau protestio newydd ar ddathliadau Balchder a sut mae'r gymuned wedi addasu er y cyfnod clô.

    54 min
  • Serenity: Cwîn Ceredigion?

    Mae gwestai brenhinol yn cadw cwmni i Iestyn a Meilir y bennod hon, sef y frenhines drag Serenity (hi/nhw) neu Chris Jones (fe) allan o drag. Cawn glywed am ysbrydoliaeth Serenity, ei balchder o'i hardal enedigol a pham ei bod wedi penderfynu aros yn ei milltir sgwar. Gyda phoblogrwydd drag ar ei uchaf erioed, pam fod cymaint o bobl yn ymddiddori yn y grefft?

    43 min
  • Priya Hall: Oes gen ti jôc?

    Ar drothwy ei sioe stand-up gyntaf yng Ngŵyl Fringe Caeredin, Priya Hall (hi) sy'n ymuno ag Iestyn a Meilir y bennod hon i rannu pam y dewisodd yrfa ym myd comedi a pha mor gynhwysol yw'r diwydiant stand-up. Hefyd, cawn glywed am brofiadau Priya a'i phartner wrth iddynt baratoi i ddechrau teulu, fel cwpwl cwiar, a'r rhwystrau y maent wedi eu hwynebu.

    48 min
  • Mike Parker: Beth sydd mor arbennig am Gymru?

    Tybed beth ddenodd Mike Parker (fo/fe) o Loegr i Fachynlleth? Yr awdur a'r cyn-wleidydd sy'n gwmni i Iestyn a Meilir y tro yma a chawn glywed pam fod Cymru mor agos at ei galon, pam y mentrodd i fyd gwleidyddiaeth a'r ysbrydoliaeth i'w lyfr hynod lwyddiannus, 'On the Red Hill'.

    43 min
  • Mhara Starling: Pam ddim gwrach?

    Na, nid gwrach ond swynwraig yw gwestai'r podlediad y bennod hon. Mhara Starling (hi) sy’n bwrw’i swyn dros Iestyn a Meilir wrth drafod dylanwad llên gwerin Cymraeg ar ei bywoliaeth heddiw a sut wnaeth y dylanwad hwnnw ail-gynnau ei balchder yn ei Chymreictod.

    47 min
  • Gruff Jones: Ga i ofyn cwestiwn?

    Yn y bennod hon, aiff Gruff (nhw) â ni ar eu taith o ddod i adnabod eu hunain fel person anneuaidd ac o rannu’r daith honno gyda rheiny sydd agosaf atynt, o gyd-aelodau’r band Swnami i’w teulu a’u teulu estynedig. Cawn glywed am ysbrydoliaeth y gân 'Be Bynnag Fydd' ac arwyddocâd y geiriau "rhwng dwy lan ond heb ddeall pam, yn perthyn i ddim" yn ogystal â gofyn y cwestiwn "sut mae modd holi am hunaniaethau traws ac anneuaidd heb sarhau neu ymyryd"?

    56 min

About Esgusodwch fi?

From the publisher's feed

Trafodaethau bywiog am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn aelod o gymuned LHDTC+ yng Nghymru, yng nghwmni Iestyn Wyn a Meilir Rhys Williams. Iestyn Wyn & Meilir Rhys Williams celebrate the LGBTQ+…

More shows like Esgusodwch fi?

Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,568 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,045 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,518 Listeners

The Documentary Podcast by BBC World Service

The Documentary Podcast

1,807 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,791 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,024 Listeners

The Infinite Monkey Cage by BBC Radio 4

The Infinite Monkey Cage

2,013 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,221 Listeners

Americast by BBC News

Americast

732 Listeners

Cyber Hack by BBC World Service

Cyber Hack

1,603 Listeners