Ffilm 5 munud a 42 eiliad o hyd a wnaed gan Yingmei Duan yn 2002 yw Talk to Myself.
Mae'r ffilm yn dangos golygfa hydrefol brudd mewn gardd. Y tu ôl i goed a mieri moel, mae menyw â gwallt du a phenrhwymyn du syml, sy'n gwisgo crys siec gwyn a glas, oferôls jîns golau ac esgidiau gwaith, yn rhacanu dail o'r ddaear yn aflonydd drwy symudiadau unffurf, wrth siarad â'i hun yn ei mamiaith.
Mae ei geiriau, sy'n cael eu cyflwyno mewn tôn brudd, wedi’u cyfieithu drwy is-deitlau Saesneg ar waelod y sgrîn.
Mae'r trawsgrifiad fel a ganlyn: “Gwelais i’r peiriannau hyn eto ddoe. Bob tro y gwela i’r peiriannau hyn, mae'n rhaid i fi chwerthin.
Hoffwn i fod yn anweladwy. Hoffwn i bob amser weld pobl eraill, ond heb iddyn nhw fy ngweld i. Byddai hynny'n hyfryd!
Hoffwn i fod yn anweladwy. Hoffwn i! Hoffwn i wybod mwy am y byd. Hoffwn i allu hedfan ledled y byd a gweld sut mae pobl yn byw.
Ydy pawb ar y Ddaear yn drist? Ydy hyn yn wir? Pam maen nhw’n drist? (Ochenaid) Dydw i ddim yn gwybod.
Ddoe, gwelais i gi bach doniol. Efallai nad oedd ef erioed wedi gweld menyw Tsieineaidd o'r blaen? Roedd e'n hyfryd! (Chwerthin) Rhaid i fi chwerthin bob amser pan fydda i’n meddwl am y ci hwn.
Gadewch lonydd i fi! Gadewch i fi fynd, neu gallwn i farw fel arall. Agorwch y ffenestr ar unwaith! Hoffwn i gael awyr las! Neu rhowch dwll i fi neidio i mewn iddo.
Dydw i ddim eisiau clywed y synau hyn mwyach! Mae mor wael, mor wael!
Ddoe, roeddwn i mor hardd, yn fwy hardd nag ar ddiwrnodau eraill.
Efallai mai fy nillad newydd oedd y rheswm. Roeddwn i’n teimlo bod pawb ar y stryd yn edrych arna i. Oeddwn i wir yn hardd iawn?
Mae adar, cŵn a chathod yn hapus iawn. Dydyn nhw ddim yn drist. Pam mae’n rhaid i blentyn dyfu i fyny?
Pam mae pobl yn meddwl? Pam? Dydw i ddim yn gwybod. Beth ydy da? Beth ydy drwg? Beth ydy daioni? Beth ydy drygioni? Pam nad ydw i’n gwybod eto?
Pam mae perthnasoedd â ffrindiau’n fy mlino? Pa fath o berson ydw i? Ydw i’n hapus? (Ochenaid) Does dim clem gen i! Pam rydw i mor weithgar bob dydd? Pam? Pam mae’n rhaid i fi wneud cymaint bob dydd? Efallai y bydda i’n marw yfory, neu fydda i ddim yn deffro o gwbl. Mae popeth yn digwydd er fy ngwaethaf. Does dim byd yno mwyach! (Ochenaid) Hoffwn i atal y cloc. Hoffwn i atal pob cloc!
Laoxiong (fy nghi), ble rwyt ti? Meddyliais i am dy lygaid eto.
Pan fydda i’n gweld dy lygaid, rydw i eisiau crio bob tro. Pam rwyt ti bob amser yn drist? Pam rwyt ti bob amser yn ofnus pan fydda i’n dy adael?
Pam rwyt ti bob amser yn anadlu’n drwm? Rydw i bob amser wedi coginio llawer o fwyd i ti! Rydw i’n meddwl bod dy fywyd di’n llawer gwell na fy mywyd i, ond dydych chi byth yn fodlon.”
Yn y diwedd, mae’n canu hwiangerdd Tsieineaidd am chwilio am gyfeillgarwch.
Mae’n ymddangos bod ei meddyliau’n drech na hi.
Am y gwaith, meddai Melanie Martin, “Mae’n ymddangos bod bygythiad dirgel yn yr awyr. Ni all fynegi rhai o’i meddyliau a’i theimladau ac mae’n gofyn cwestiynau anobeithiol nad oes modd eu hateb. Fodd bynnag, ni all ei barn ddiniwed am y byd atal trychineb. Mae ganddi ddihidrwydd plentynnaidd, ond mae’n ymddangos bod y byd ar ei hysgwyddau. Mae’n crio am help, ond ni allwn ddod i’w hadwy.”
Ganed Yingmei Duan ym 1969 yn Daqing, Tsieina.
Y corff yw cyfrwng canolog arfer perfformio unigol Duan, sy’n ymroddedig i archwilio ieithwedd y celfyddydau perfformio’n barhaus, drwy arferion arbrofol ar draws cyd-destunau gofodol amrywiol.
Mae ei gwaith perfformio unigol ac ar y cyd yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd. Yn ei phrosiectau cydweithredol, mae pobl wrth wraidd y gwaith o hyd; mae wedi canolbwyntio ers amser maith ar sut mae unigolion a grwpiau’n cyfleu hunaniaeth, profiadau, emosiynau, atgofion, meddyliau ac ymwybyddiaeth, a sut mae’r profiadau’n hyn yn cael eu llywio gan gyd-destunau gwleidyddol, cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol, gan greu’r sail am gydweithrediad artistig manwl.