Ffilm 9 munud, 39 eiliad o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2012 yw [pause] Time & Motion Study.
Mae'r ffilm wedi'i gosod yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2011 yn ystod y cyfnod cyn iddi gael ei chau ar gyfer prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd.
Roedd y weithred o bacio, clirio a newid wedi dechrau ym mhob rhan o'r adeilad – yn yr arddangosfeydd cyhoeddus yn ogystal ag yn y coridorau cudd a'r ystafelloedd cefn.
Mae'r ffilm du a gwyn hon yn portreadu diwrnod ffuglennol, mewn tair rhan.
Y rhan gyntaf yw'r bore lle dangosir y casgliad yn dal ynghyd yn yr orielau, a lle mae ardaloedd cyhoeddus a phreifat yr adeilad yn cael eu cyfleu yn yr un modd. Mae set o sbanwyr ar wal mewn gweithdy neu res o fylbiau golau wedi'u trefnu gyda'r un manylder â'r rhes o jygiau buchod crochenwaith Abertawe sy'n sefyll mewn cypyrddau gwydr yn yr oriel, ac mae modd cymharu'r grisiau mawreddog â'r grisiau ymarferol yn y cefn.
Yr ail ran yw dechrau'r diwrnod wrth i'r gweithwyr gyrraedd, gyda'r dasg o adfer darnau crochenwaith, eu didoli a'u llenwi'n ofalus â phapur sidan, cyn eu rhoi mewn deunydd lapio swigod a'u labelu.
Yn olaf, gyda'r hwyr, mae'r casgliad o wrthrychau a fyddai fel arfer wedi cael eu harddangos yn yr oriel bellach wedi'u cuddio y tu mewn i gardbord. Mae rhifau'r blychau'n cynyddu wrth iddyn nhw luosi'n ymddangosiadol ddiwedd. Mae'r cypyrddau gwydr a fu gynt yn llawn bellach yn wag.
Dywedodd Anthony Shapland y canlynol am y gwaith:
“Roedd y briff yn agored, sef creu dehongliad o Oriel Glynn Vivian. Dros sawl mis, ymwelais â'r oriel bum gwaith, gan recordio am fwy na 400 o funudau heb syniad pendant am strwythur y ffilm. Wrth wylio'r deunydd hwn y dechreuodd y naratif ffurfio.
“Wrth i fi olygu'r ffilm, sylweddolais fy mod yn cynhyrchu rhywbeth a fyddai'n destun hiraeth yn fuan gan y byddai llawer o'r lleoliadau roeddwn yn eu ffilmio yn diflannu yn ystod y gwaith ailwampio a oedd ar ddod. Mae teitl y ffilm yn deyrnged i astudiaethau Frank a Lillian Gilbreth o ergonomeg ac effeithlonrwydd gweithwyr wrth eu gwaith. Roedd eu ffilmiau wedi sbarduno newid, fel arfer wedi'u comisiynu gan reolwyr neu sefydliadau. Serch hynny, dim ond cofnodi newid y mae'r ffilm hon. Heblaw am y gwaith golygu, nid oes unrhyw ystrywiau gyda'r camera, dim byd ffug nac effeithiau; ni ofynnwyd i unrhyw un wneud unrhyw beth gerbron y camera ac ni chafodd unrhyw beth ei ailffilmio. Dyma ffilm lle mae'r gwyliwr yn arsylwi drwy lens oddefol y camera.”
Artist a nofelydd o Gymru yw Anthony Shapland ac ef yw sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid. Cafodd ei fagu ym Margoed yng nghwm Rhymni. Drwy ei waith ysgrifenedig ac artistig, mae'n cyfuno deunydd dogfennol a ffuglennol, gan ddefnyddio ei brofiad uniongyrchol o fod yn hoyw yng nghefn gwlad a pherfformio fel rhywun heterorywiol wrth dyfu i fyny.