A World of Mystery: the life of Margaret Watts Hughes
The name of Margaret Watts Hughes will not be familiar to many, but it certainly should be. A Dowlais born, child vocalist of great fame, who grew to be known across the country for her voice. Fascinated by sound she invented a way of making the human voice visible. To her there was an invisible world of mystery that sound revealed, and she was at the forefront of revealing that world.
A selection of Margaret Watts Hughes Voice Figures, chosen by Heather, are currently on display in Room 8 from Cyfarthfa Castle Museum and Art Gallery Collection as part of the Out of this World exhibition.
This event is part of a programme of activities to celebrate Heather Phillipson’s Out of this World exhibition. Heather Phillipson: Out of this World. An IWM 14-18 NOW Legacy Fund commission in partnership with Glynn Vivian Art Gallery.
Ni fydd enw Margaret Watts Hughes yn gyfarwydd i nifer ohonoch, ond, yn sicr, dylai’r enw fod yn un cyfarwydd iawn. Ganwyd y gantores, a ddaeth i’r amlwg pan oedd hi’n blentyn, yn Nowlais, a daeth yn adnabyddus ar draws y wlad am ei llais. Cafodd ei swyno gan sain, ac roedd hi’n arbrofi gyda sain a dyfeisiodd ffordd o wneud y llais dynol yn weladwy. Iddi hi, roedd byd anweladwy llawn dirgel yr oedd sain yn ei amlygu, ac roedd hi ar flaen y gad o ran datgelu’r byd hwnnw.
Mae detholiad o gasgliad Voice Figures Margaret Watts Hughes, a ddewiswyd gan Heather, yn cael ei arddangos yn Ystafell 8 o gasgliad Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa fel rhan o’r Arddangosfa Out of this World.
Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen o weithgareddau i ddathlu arddangosfa Out of this World Heather Phillipson. Heather Phillipson: Out of this World. Comisiwn Cronfa Waddol ‘IWM 14-18 NOW’ mewn partneriaeth ag Oriel Gelf Glyn Vivian.