Pod Jomec Cymraeg

Pod Jomec Cymraeg

By Jomec Cymraeg/Y DarlledwyrArtsVisual Arts
Download on the App Store

Pod Jomec Cymraeg episodes

  • Pod Jomec Cymraeg 62- Illtud Dafydd

    Yn y rhifyn yma mae Jack Thomas o’r flwyddyn gyntaf yn siarad gydag Illtud Dafydd, newyddiadurwr ifanc a raddiwyd o JOMEC, sydd erbyn hyn yn gweithio yn y byd chwaraeon i gwmni AFP ym Mharis, Ffrainc.


    Mae’r ddau’n sgwrsio am bencampwriaeth y Chwe gwlad a fu Illtud yn gweithio arno, Newyddiaduriaeth yn Ffrainc, a’r cyfleoedd mae Illtud wedi cael wrth iddo weithio ar rhai o ddigwyddiadau chwaraeon mwya’r byd. Mwynhewch!

    29 min
  • Pod Jomec Cymraeg 61- Bethan Sayed

    Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn  ŵyl fyd-eang sy’n bwysig i’r mudiad hawliau menywod,

    Mae’n dod a sylw i bynciau fel cydraddoldeb rhyw, hawliau atgenhedlu, thrais a cham-drin yn erbyn menywod.

    Yn y bennod yma mae Megan Taylor a Gracie Richards yn sgwrsio gyda’r cyn-wleidydd Bethan Sayed.

    24 min
  • Pod Jomec Cymraeg 60- Jess Davies

    Mae Diwrnod rhyngwladol y Merched yn ŵyl fyd-eang, sy’n bwysig i’r mudiad hawliau menywod, ac yn dod a sylw i bynciau fel cydraddoldeb rhyw, hawliau atgenhedlu, a thrais a cham-drin yn erbyn menywod. 

    Yn y bennod yma mae Gracie Richards a Megan Taylor yn sgwrsio gyda Jess Davies- cyflwynwraig, ymgyrchydd a chyn-fodel. 

    24 min
  • Pod Jomec Cymraeg 59- Indigo Jones

    Yn y bennod yma, ma  Millie Stacey o'r ail flwyddyn yn siarad gydag Indigo Jones, cyn-fyfyriwr JOMEC a nawr yn gweithio i ITV Cymru. 

    Mae’r ddwy yn trafod Cymru, ein hiaith, ein newyddion , y cyfryngau cymdeithasol a chyngor i fyfyrwyr heddiw. Mae’n werth gwrando ar un yma!

    23 min
  • Pod Jomec Cymraeg 58- Delyth Lloyd

    Yn y bennod hon, Beca Dalis o'r ail flwyddyn sydd yn siarad gyda gohebydd chwaraeon BBC Chwaraeon a Radio 5 Live, Delyth Lloyd. Mae'r ddwy yn trafod dechrau gyrfa Delyth yn Aberystwyth, ei phrofiadau cyntaf yn y diwydiant, a Chymru yn Qatar!

    28 min
  • Pod Jomec Cymraeg 57- Nic Parry

    Yn y bennod hon, Ben Peris o'r drydedd flwyddyn sydd yn siarad gyda sylwebydd Sgorio Nic Parry, cyn-gyfreithiwr, barnwr ac un o leisiau mwyaf poblogaidd ym myd darlledu Cymru. Mae'r ddau yn trafod cwpan y byd, datblygiadau yn y byd sylwebu ac yn dadlau am y gêm ddarbi fwyaf yng Nghymru!

    30 min
  • Pod Jomec Cymraeg 56- Rhifyn Torri Ffiniau Eisteddfod 2022

    Dyma bennod arbennig o Pod Jomec Cymraeg sy'n rhan o bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato yn Seland Newydd. Cyfle yw hwn i archwilio hunaniaeth drwy lygad cerddorion post-punk yn Aotearoa a hefyd yma yng Nghymru. 

    Fel rhan o webinar gafodd ei recordio yn hwyr y nos, mae Wairehu Grant, o Halftime, a'r darlithydd Gareth Schott yn Seland Newydd yn trafod effaith iaith, hunaniaeth, diwylliant, protestio, celf a bywyd ar gerddoriaeth ym mhen draw'r byd, a Rhys Mwyn yn hel atgofion am ei gyfnod yn Anrhefn tra'n cymharu ei brofiad e a'r gantores ym mand Chroma, Katie Hall.

    Dyma drafodaeth onest am effaith colli iaith, yr euogrwydd, yr ail-gydio mewn diwylliant, a'r dathliadau o drawsffurfiad cerddorol dau sin ar yr ymylon.

    ***RHYBUDD: IAITH GREF MEWN MANNAU***


    1 hr 10 min
  • Pod Jomec Cymraeg 55- Dom a Lloyd

    Ar ol gwefreiddio Gwyl Tafwyl yng Nghaerdydd, mae disgwyl i "Pwy Sy'n Galw?" atseinio ar Faes B yn Nhregaron yr wythnos hon. Yn y bennod arbennig hon o Pod Jomec Cymraeg, mae Dom James a Lloyd Lewis yn siarad a Gwion Ifan o griw Llais y Maes am bopeth o'u cariad at greu cerddoriaeth gyda Don eu cynhyrchydd, eu breuddwyd i greu rhagor o ganeuon a fideos o safon, a pham eu bod nhw'n benderfynol o weddnewid delwedd yr iaith Gymraeg.

    19 min
  • Pod Jomec Cymraeg 54- Rhifyn Eisteddfod Yr Urdd 2022- Dyfodol Digidol

    Rhifyn arbennig yw hwn am ddyfodol newyddiaduraeth digidol. Cafodd y pod ei recordio ar leoliad ar faes Eisteddfod yr Urdd o flaen cynulleidfa o eisteddfotwyr brwd. 

    Temi Smith newyddiadurwraig @hanshdimsbin sy'n arloesi o safbwynt newyddiaduraeth Gymraeg ar Tiktok, a Tomos Gruffydd Evans, un o raddedigion JOMEC sy bellach yn gwneud ei farc yng ngwasanaeth newyddion digidol @newyddions4c sy'n siarad a un o ddarlithwyr yr adran, Gwenfair Griffith.

    43 min
  • Pod Jomec Cymraeg 53- Angharad Mair

    Brenhines y soffa - Angharad Mair - yw'r gwestai yn y bennod yma. Un o gyflwynwyr a golygydd Heno, ac yn un o benaethiaid cwmni teledu Tinopolis, mae hi'n trafod ei gyrfa lwyddiannus gyda Lois Campbell o'r ail flwyddyn. Nid y byd darlledu yn unig sy'n cael sylw, ond sut y gallai taclo problem tai haf Cymru helpu sicrhau dyfodol yr iaith a faint yn fwy sydd angen ei wneud er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

    32 min

About Pod Jomec Cymraeg

From the publisher's feed

Dyma bodlediad i chi fydd yn datgelu popeth chi erioed wedi ishe gwybod am rai o ddarlledwyr/newyddiadurwyr gorau Cymru.

More shows like Pod Jomec Cymraeg

Desert Island Discs by BBC Radio 4

Desert Island Discs

2,028 Listeners

Yr Hen Iaith by Mimosa Cymru

Yr Hen Iaith

0 Listeners