
Sign up to save your podcasts
Or


Yn y bennod hon Ben Davies sy’n astudio’r cyfryngau, newyddiaduraeth a diwylliant sy’n holi Owain Tudur Jones.
Mae Owain yn gyn-chwaraewr pêl-droed, enillodd Owain 7 cap dros Gymru, ac fe chwaraeodd i Abertawe, yn ogystal â chlybiau yn Lloegr, yn yr Alban ac yn Uwch Gynghrair Cymru.
Ar ôl gorffen chwarae, symudodd Owain i fyd y cyfryngau, ac erbyn hyn mae fe'n aelod o dîm Sgorio ar S4C, mae fe'n gyflwynydd ar Heno ac ar raglenni plant. Dyma stori OTJ.
Yn y bennod hon, Matt Bridge o’r drydedd flwyddyn sy’n holi swyddog y wasg Cymdeithas Pêl-droed Cymru Owain Harries.
Yn y bennod hon, Catrin Lewis o’r drydedd flwyddyn sy’n holi Cyfarwyddwr Cyfathrebu mudiad Urdd Gobaith Cymru, Mali Thomas.
Yn y bennod hon, Rhys Evans o’r drydedd flwyddyn sy’n holi Rhodri Jones.
Roedd Rhodri yn chwaraewr pêl-droed Professional i gewri'r byd pêl-droed Manchester United rhwng 1996 a 2000. Ar ôl gorffen chwarae pêl-droed symudodd Rhodri i fyd y cyfryngau, yn gweithio yn y diwydiant teledu fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr. Erbyn hyn mae Rhodri yn hyfforddwr ffitrwydd meddyliol, a dyma fe yn rhannu ei stori gyda Pod Jomec Cymraeg.
Yn y bennod hon Nel Richards o'r drydedd flwyddyn sy'n holi'r ddarllenwraig Beti George.
Fe ddechreuodd gyrfa Beti fel newyddiadurwraig lawrydd ar raglen Bore Da yn nyddiau cynnar BBC Radio Cymru - ac ers 1987 - mae hi wedi bod yn holi mawrion y genedl ar ei rhaglen eiconig Beti a'i phobl. Yn y bennod hon - mae'n trafod agweddau'r diwydiant newyddiadurol at fenywod a phobl hyn - a'i barn am newyddiadurwyr Cymru heddiw.
Yn y bennod hon, Gruff Edwards o’r ail flwyddyn sy’n holi Ashok Ahir. Yn Llywydd ar un o sefydliadau pwysicaf Cymru - y Llyfrgell Genedlaethol - mae Ashok wedi cael gyrfa ddisglair ym myd newyddiaduraeth a chyfathrebu gwleidyddol Cymru. Bu’n gyfarwyddwr cyfathrebu Llywodraeth Cymru, a hynny ar ôl gwerthu yr asiantaeth gyfathrebu roedd e’i hun wedi sefydlu ar y cyd a’i wraig. Cyn hynny, roedd e’n olygydd gwleidyddol i’r BBC yn Llundain a Chaerdydd. Wrth siarad a Gruff - mae’n dweud iddo wthio’r ffiniau yn y rôl honno - tra’n goruchwylio gwaith tîm o newyddiadurwyr gwleidyddol Cymru - ac mae hefyd yn sôn am yr her barhaol o ddenu pobl ifanc at wleidyddiaeth.
Yn y bennod hon, y fyfyrwraig Malen Aeron sy’n holi Helen Llewelyn o ITV Cymru. Mae Helen yn gynhyrchydd dogfennau sydd wedi ennill canmoliaeth uchel am ei Gwaith – yn enwedig am y rhaglen Llofruddiaeth Mike O’Leary ar S4C. Yma mae’n trafod ffilmio o hofrennyddion yn ogystal a chyfrinachau cynhyrchu eraill….
Yn y bennod hon, Ffion Pirotte o’r ail flwyddyn yn Jomec sy'n holi Gohebydd Celfyddydol Cylchgrawn Golwg. Mae Non Tudur wedi bod yn ysgrifennu am fyd celfyddydol Cymru ers blynyddoedd ac yma, mae’n trafod effaith y pandemig ar newyddiaduraeth brint ac am sut i greu erthyglau nodwedd sy’n hawlio sylw.
Yn y bennod hon, Lowri Powell, sy’n astudio newyddiaduraeth, cyfryngau a diwylliant sy’n holi'r newyddiadurwraig ifanc Alys Davies o BBC Cymru Fyw. Ar ôl astudio hanes yn y brifysgol yn Llundain, ac yna athroniaeth yn Rhydychen, bu Alys yn byw yn Cheina am gyfnod cyn dechrau ar ei gyrfa newyddiadurol. Mae ar fin dechrau rôl newydd yn gweithio i BBC World online ac yn y sgwrs hon mae'n trafod dechrau gyrfa yn y byd newyddiaduraeth ddigidol Cymraeg a sut i greu straeon sy'n denu sylw arlein.
Exctinction Rebellion yw un o'r grwpiau amgylcheddol sydd yn ennill y sylw mwyaf yn y cyfryngau yn y blynyddoedd diweddaraf. Yn y podlediad yma, Gracie Richards, sy'n astudio Cyfryngau a Chyfathrebu yn JOMEC sy'n holi Sian Stephen o Gaerdydd am ei rol hi yn datblygu ymgyrchoedd y grwp yng Nghymru. O lwyddiannau Gwrthryfel Difodiant, i'r cwyno am eu dulliau a'r gobeithion wrth i Cop26 ddirwyn i ben mae Gracie'n clywed y cyfan am sut i baratoi a threfnu ymgyrchoedd amgylcheddol gan grwp sy'n gwybod sut i hawlio'r penawdau.
From the publisher's feed

2,028 Listeners

0 Listeners